Kathryn Allen Hurni – Witness

Kathryn Allen Hurni

WITNESS

Rhagolwg Dydd Gwener Tachwedd 2il, 7-10yh

Mae WITNESS yn parhau tan Ddydd Sadwrn Rhagfyr 1af

Oriel ar agor Merch -Sad, 12 – 5ypv

Mae oriel Elysium yn cyflwyno corff o waith newydd gan enillydd Gwobr Ffotograffiaeth Rhyngwladol ESPY 2017, Kathryn Allen Hurni, o Efrog Newydd.

I Hurni, mae portreadu’n dawnslunio ystum sydd yn dwyn tystiolaeth i’r foment cyn, neu’r foment cyn hynny. Mae bregusrwydd lletchwith yn codi wrth ofyn i rywun berfformio gweithred a oedd unwaith yn naturiol ond sydd nawr yn grefft llwyfan. Ac eto, mae’r unigolion hyn yn dod o hyd i leoedd o fewn y tirluniau y mae hi’n eu ffotograffio.

Mae eu actio wedi cwrdd â llwyfan o’i dewis lle mae’r tirwedd a phortreadau yn plygu i mewn i fyd yr oedd hi’n anymwybodol o greu ond un y mae wedi’i siartio serch hynny. Proses y mae hi’n dweud sydd yn “rhannol potsio, a rhannol gŵar.”

Mae Kathryn Allen Hurni wedi arddangos ac wedi ei gyhoeddi’n helaeth yn yr Unol Daleithiau, ond dyma’i thro cyntaf yn y DU ac yng Nghymru. Mae’r artist yn gyffroedig i fod yn ymweld â man lle bu un o arloeswyr cynnar ffotograffiaeth yn cynnal ei arbrofion. Roedd yng nghastell Margam y dyfynnodd Henry Fox Talbot y prosesau papur wedi’i halltu a chateoteip, rhagflaenwyr i brosesau ffotograffig o’r 19eg a’r 20fed ganrif.

‘Mewn sawl ffordd mae ffotograffiaeth wedi bod trwy chwyldroadau cyfan ers amser y rheini fel Julia Margaret Cameron neu Henry Peach Robinson. Ond hoffwn feddwl y byddai eu hagweddau meddylgar blaengar tuag at, a’u defnydd o ffotograffiaeth yn croesawi’r newidiadau hyn. Roedd Robinson yn meistroli ffotogosodiad yn union fel y byddem ni’n defnyddio Photoshop heddiw. Roedd gan Julia Margaret Cameron diddordeb mewn mynegiant dros medrusrwydd, yn ennill sylwadau beirniadol am ei diffyg sgiliau technegol. Ac roedd Talbot yn cystadlu â Daguerre i ddyfeisio ffordd newydd o gofnodi delweddau camera oherwydd ei fod wedi ei ddiddori gan “harddwch amhriodol lluniau o baentio natur y mae lens gwydr y camera yn ei daflu ar y papur yn ei ffocws”. Roedd yr unigolion hyn yn wir arloeswyr yn y gyfrwng ac wedi paratoi’r ffordd i ffotograffiaeth ddod yn un o’r ffurfiau celf mwyaf enwog heddiw. Mae bod o America, gwlad sydd â gorffennol weddol byr, yn fy ngwneud hyd yn oed yn fwy werthfawrogol i ddangos fy ngwaith mewn lle sy’n gartref I fynegiant more gyfoethog a chwedlonol.

Mae WITNESS yn parhau tan Ddydd Sadwrn Rhagfyr 1af

Oriel ar agor Merch -Sad, 12 – 5ypv