Dafydd Williams – Setli I bwll lonydd

Dafydd Williams – Setli I bwll lonydd

Rhagolwg: Dydd Gwener, Mai 11eg 7.00yh

Arddangosfa’n parhau tan Ddydd Sadwrn Mai 26ain.

Sgwrs Artist Dydd Sadwrn Mai 19eg 3yp

Yr ail artist preswyl yn oriel elysium am 2018 yw Dafydd Williams, graddedig Coleg Celf Abertawe.
Mae Williams wedi cymryd y preswyliaeth fel cyfle i archwilio ei archif teuluol; yn fwy penodol, tapiau VHS teulu cartref.

“Mae defodau teuluol yn allweddol i’r teimlad o berthyn a phwrpas mewn teulu. Mae dibarhad hefyd yn rhan hanfodol o fywyd, er gall ddibarhad defodau teuluol bod yn drawmatig os yw’n sydyn.”

O fewn y preswyliad hwn, mae Dafydd wedi archwilio dirywiad a marwolaeth defodau teuluol trwy ddibarhad a thrwy trawma. Yn yr achos hwn, mae trawma yn cymryd ei ffurf fel alcoholiaeth.

“Bu’n rhaid i mi guro’n ofalus ar y pwnc hwn. Rwy’n dal defodau ac atgofion fy nheulu o bwysigrwydd eithafol, ac fel ffynnon o hiraeth. Mae hanes yn sefydlog (marw) a’r cof yn hyblyg (yn fyw). Gan ystyried syniadau o Gof Gyfunol a gyflwynwyd gan Halbwachs, roedd fy atgofion mewn beryg o gael eu mowldio i mewn i atgofion negyddol wrth weithio gyda themâu negyddol. Mae’n teimlo bron fel bo’m hatgofion yn bodoli fel tapiau VHS, a byddai triniaeth o’r tapiau hynny hefyd yn drîn fy nghof.”

Bydd yr artist yn defnyddio’r oriel fel gofod stiwdio o’r 14eg o Ebrill – Mai’r 10fed, gyda’r arddangosfa “Settling to a Still Pool” yn dilyn – rhagolwg ar Ddydd Gwener y 19eg o Fai, 3yp, a digwyddiad diwedd yr arddangosfa ar Ddydd Sadwrn y 26ain o Fai, i gyd-fynd â Gŵyl Radio 1 Penwythnos Mwyaf: Abertawe.

www.elysiumgallery.com