James Moore – Y Gwir Cynderfynol

James Moore – Y Gwir Cynderfynol

Rhagolwg Dydd Gwener Ebrill 12fed, 7yh

Sgwrs Artist Dydd Sadwrn Ebrill 13eg, 3yp

Mae’r arddangosfa yn parhau tan Ddydd Sadwrn Mai 11eg

Oriel ar agor Dydd Mawrth-Sad 12 – 8yh

Mae’r Gwir Cynderfynol yn gyfres newydd o baentiadau tirlun sy’n edrych yn ôl ar wahanol safleoedd o ganon hanes celf. Mae’r paentiadau newydd yn seiliedig ar ddelweddau a gasglwyd gan ddelweddau wedi’u casglu o Gwgl Mapiau a Gwgl Ddaear. Y lleoliadau a ddangosir yw’r uchafbwynt creigiog a geir yn Wanderer Above the Mist gan Friedrich, ffurfiau creigiau Cadaqués sy’n ymddangos mewn llawer o ddarluniau Dali, Crookhey Hall – cartref plentyndod Leonora Carrington sy’n ymddangos yn ei thirweddau swrrealaidd, a Mont Sainte Victoire – a baentiwyd gan Cezanne sawl gwaith.

“Mae’r gwaith yn adeiladu ar thema parhaol yn fy ngwaith – archwiliad o’r natur rithwir a ffuglennol o’n diwylliant gweledol a’r defnydd o beintio i ddistyllio’r estheteg a’r ystyron cudd rydym yn gosod mewn cynrychioliadau o’r dirwedd.”

Yn nodweddiadol, mae fy ngwaith yn dangos amrywiaeth o fydoedd ffuglennol megis setiau ffilm, dioramâu amgueddfa, gemau fideo, peintiadau hanesyddol a chynefinoedd sw. Defnyddiant y trosiadau o ddulliau baentio tirwedd fel modd ar gyfer archwilio a holi’r amgylchedd cyfryngol sy’n ffurfio ein bywyd bob dydd. Rydw i wedi’m swyno gan y resymau a’r ystyron sy’n trigo yn y bydoedd efelychiadol yr ydym yn dod ar eu traws yn barhaus.”

Fe’i ganwyd yng Nghaerdydd yn 1979, ac astudiodd James Moore BA (Anrh) Celf Gain yn Ysgol Gelf Manceinion a MA Celf Gain yng Ngholeg Gelf Chelsea. Ei arddangosfa unigol fwyaf diweddar oedd ‘Strange Eden’ yn Oriel Mwldan yn 2018. Mae arddangosfeydd grŵp wedi cynnwys ‘Abstract: Reality’ ac ‘Into a Light’ yn Oriel Saatchi, RUG yng Nghaerdydd, BEEP 2018 yn Abertawe, ‘Twice as Nice’ yn PS Mirabel ym Manceinion a ‘Like the Lines of a Hand’ yn Oriel Bapur ym Manceinion. Mae James wedi arddangos yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru dair gwaith.

www.jamescmoore.org