Mohamed Hassan – Eneidiau

Oriel Tri

Mohamed Hassan: Eneidiau

Mai 24ain – Mehefin 22ain

Yn wreiddiol o Alexandria, mae Mohamed Hassan wedi bod yn byw ac yn gweithio yn Sir Benfro, yng Ngorllewin Cymru yn y DU ers 2007, gan raddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Ffotograffiaeth o Ysgol Gelf Caerfyrddin yn 2016. Ers hynny mae wedi parhau i dynnu lluniau o’r cyflwr dynol yn amgylchedd y stiwdio ac o olygfeydd bywyd go iawn.

 Mae’r delweddau yn yr arddangosfa hon yn talu teyrnged i fywyd yn ei wlad enedigol, yr Aifft, lle treuliodd fis Mawrth 2017 yng Nghairo yn arddangos ei sioe unigol ‘Witnessing Wales’.

 ‘Yn ystod y cyfnod hwn, fy ymweliad cyntaf â’r Aifft ers i mi raddio, dechreuais weld fy nghartref trwy fy llygaid newydd – ail-werthuso’r amgylchedd a phobl a’u cydnabod fel pwnc gwerthfawr a allai ddarparu gwaith cryf a myfyriol.

 Fy nod yn y gyfres hon o ddelweddau yw trawsnewid golygfeydd gostyngedig a phobl go iawn yr Aifft i mewn i ffotograffau hudolus.

www.mohamedhassanphotography.com