Rhwydwaith Artistiaid Cymru #2

Rhwydwaith Artistiaid Cymru #2

Lleoliad: oriel elysium, 210 Stryd Fawr, Abertawe SA1 1PE

Rhagolwg: Dydd Gwener Awst 23ain, 7yh (â cherddoriaeth gan DJ Chronic)

Sgyrsiau artist/ Digwyddiad rhwydweithio: Dydd Sadwrn Awst 24ain, 3yp (â cherddoriath electrig byw gan The Welsh Modular Alliance yn y noswaith)

Arddangosfa’n parhau tan Ddydd Sadwrn Medi 21ain

Oriel ar agor Dydd Mawrth – Sad 12 – 7yh

Bar ar agor D Mawrth a Mercher 12 – 7yh; Iau 12-11yh; Gwener a Sadwrn 12-1yb

Ail rhan o gyfres o ddigwyddiadau sy’n dod at eu gilydd rhwydweithiau artistiaid ar draws Cymru.

Gyda:

CALL: Culture Action Llandudno,
CARN: Rhwydwaith Artistic Ardal Caernarfon,
Celf Undegun, Wrecsam.

Artistiaid

CARN: Rita Ann | Veronica Calarco | Gill Collier | Llyr Davies | Morgan Griffith | Gareth Griffith | Rebecca F Hardy | Justine McGregor | Anthony Morris | Mike Murray | Gwen Vaughan | Susan Williams

CALL: Trish Bermingham | Wendy Leah Dawson | Emily – Jane Hillman | Pea Restall | Alana Tyson | Alan Whitfield

Undegun Arts: Marja Bonada | Rona Campbell | Katie Cyfenw | Deborah Dalton | David Lloyd Edwards | Louise Griffin | Melanie Hayes | Gary Jackson | Lynne Jones | Keith Lacey | Sophia Leadill | Tom Lostday | Georgia Nielson | Jasmine Roberts | Julie Rogers-Owen | James Story | David Williams


‘WE’RE FROM FURTHER NORTH THAN YOU’ yw lansiad yr ail o gyfres o arddangosfeydd a digwyddiadau rhwydweithio yn dod at eu gilydd rhwydweithiau artistiaid o ledled Cymru i greu platfform am rannu sgiliau, annog sgyrsiau creadigol a magu prosiectau newydd.

Bydd yr arddangosfa a digwyddiad rhwydweithio yma yn dangos y gwaith o artistiaid stiwdio CALL (Culture Action Llandudno), CARN (Rhwydwaith Artistig Ardal Caernarfon) a Stiwdios Undegun yn Wrecsam. Dilynir hwn arddangosfa blwyddyn diwethaf, ‘WE’RE FROM FURTHER SOUTH THAN YOU’ yng Ngogledd Cymru gan artistiaid stiwdios elysium, Abertawe.

Bydd cyd-drefnydd artist, anogwyr ac ymarferwyr o bob grŵp ar gael i siarad am eu gwaith a beth sy’n digwydd yng Ngogledd Cymru trwy gyfres o drafodaethau grŵp a chyflwyniadau. Bydd hefyd taith o stiwdios elysium a cyfle i siarad i rai o artistiaid Abertawe.

Bwriad y Rhwydwaith Artistiaid Stiwdio Cymru yw i gyfrannu tuag at rannu gwybodaeth arbenigol, ymchwil a syniadau ar draws artistiaid ac orielau sy’n cael eu cadw ar wahan yn ddaearyddol yng Nghymru.

CALL a Prosiect Stiwdios Haus yw menter cymdeithasol yn Llandudno. Eu nod yw hyrwyddo adfywiad o dref Llandudno sy’n seiliedig ar ddiwylliant a phrofiad, gan roi’r celfyddydau a diwylliant wrth galon datblygiad ac esblygiad hir-dymor y dref.

Mae CARN (Rhwydwaith Artistic Ardal Caernarfon | Caernarfon Artist Regional Network) yn sefydliad aelodaeth a grŵp cyfansoddiadol sy’n gweithio trwy artistiaid i ddarparu buddion tuag at les a llewyrchiant y gymuned. Mae’n cydnabod drwy helpu artistiaid i ddatblygu arferion celf llewyrchus ac hyderus, y gall wneud y mwyaf o’r cyfraniad a wnânt i’r gymdeithas.

Celf Undegun yw grŵp celf annibynnol gyda mannau oriel a stiwdios mawr yng nghanol dre Wrecsam.

www.elysiumgallery.com

 www.facebook.com/Undegun/

www.cultureactionllandudno.co.uk

www.stamp.cymru