Bruce Risdon – Just is…

Bruce Risdon – Juxt is…

Rhagolwg: Dydd Gwener Chwefror 3ydd 7yh

Arddangosfa’n parhau tan Chwefror 18ed 

Agor D. Mercher – D. Sadwrn 12-5yp

Mynediad am ddim

Mae arddangosfa cyntaf o’r flwyddyn newydd yn nodi dechrau cyfres o ddigwyddiadau yn rhedeg trwy gydol 2017 i ddathlu’r 10fed blwyddyn o orielysium/ elysiumgallery.

Dros y degawd diwethaf, mae elysium wedi cynnal cannoedd o arddangosfeydd gan gefnogi cannoedd o artistiaid, ac y mae wedi tyfu o fod yn oriel symudol, dros dro i ddarparwr stiwdio ac arddangosfeydd sefydledig, yn gyfrannu’n fawr tuag at y celfyddydau yng Nghymru.

Cyn ei dechreuad yn 2007, rhagflaenwyd elysium gan oriel exposure (2003-06) wedi’i redeg gan (ymysg eraill) rhai o’r Cyfarwyddwyr cyfredol orielysium/ elysium gallery. Yr arddangosfa cyntaf yn exposure oedd gan artist o Sir Amwythig, wedi’i leoli yn Abertawe, Bruce Risdon, a gyflwynodd ei gymysgedd neilltuol iawn o beintiadau tirlun a phortread. Cafodd gweithiau mawr Risdon eu cyflawni mewn arddull fentrus, lliwgar ac ystumiol gyda themâu yn amrywio o naratifau erotig i olygfeydd tirluniau hyderus. Dechreuodd yr arddangosfa gyntaf yma y daith sy’n ein harwain at nawr.

Er anrhydedd o’r arddangosfa yna yn oriel exposure a’r flwyddyn pwysig yma i orielysium/ elysium gallery, mae Risdon wedi dychwelyd at y ffigwr fel pwnc, ac yn cyflwyno corff newydd o beintiadau. Edrychir “Juxt is…” ar chwalu stereoteipiau traddodiadol o rolau hunaniaeth, rhywioldeb, a rhyw. Mae’n cynrychioliad o’r diffreithiad modern o’r normau nodweddiadol, yn arddangos cyn nodweddion yr unigolyn cyfoes sydd bellach wedi dod yn bleserau gwahanol, dieuog.

Mae cyfres o bortreadau mawr yn seiliedig ar beintiadau o hynafiaeth yn cael eu moderneiddio gan dueddiadau croes, sydd efallai’n cael ei fynegi’n orau yn nheitl un darn o’r enw “Chainsaw Amy.” Mae “Juxt is…” wedi’i beintio’n llwyr mewn acrylig am rhesymau amgylcheddol, a gyda hyn mae dechneg mwy chiaroscuro wedi esblygu ond serch hynny mor mynegiannol a gweithiau cynharach. Maent yn cynnwys ardaloedd o fanylion dwys sy’n ildio i ystymiau braslunio cyferbyniol, yn bwrw’n ôl i blygiadau Freudaidd a blodau Gogh-aidd.

Bu Bruce Risdon yn rhan annatod o oriel exposure a’r blynyddoedd cynnar o orielysium/ elysium gallery. Rydym yn hynod falch o allu gyflwyno’r corff newydd hwn o waith ac mae’n addas taw “Juxt is…” bydd yn lansio rhaglen gyffroes o arddangosfeydd a gweithgareddau ar gyfer ein 10fed Pen Blwydd.

Mae Risdon yn arddangos yn rheolaidd yn y Chelsea Open, yn gyfrannwr a curadur yn Oriel Xavier White Gallery, Blackheath, ac yn aelod o’r Grŵp Y Berllan Las (The Blue Orchard Group) o beintwyr o Dde Cymru. Yn 2010, ar ôl ei sioe unigol yn Llundain, Contempariz Reprize, helpodd Risdon ffurfio’r oriel twelve34 gallery, y grŵp a aeth ymlaen i gynhyrchu’r arddangosfeydd cyfredol, hynod llwyddiannus Divided by the Meltwater. Ar hyn o bryd, mae Risdon yn ysgrifennu ei lyfr “Unbehagen – the Phenomenon of Whymme” sydd, meddai, yn “branc ysgafn, athronyddol, mewn gofod trothwyol, trwy hanesion dirdro.”