50Fifty

Artistiaid: i’w drefnu’n fuan

Lleoliadau:

 Oriel Gelf Stryd y Coleg, 16 Stryd y Coleg, Abertawe, SA1 5BH

 Coleg Celf Abertawe, Cyntedd Campws Dinefwr, Abertawe, SA1 3EU

 Oriel Elysium, Bar ac Oriel 3, 210 Stryd Fawr, Abertawe, SA1 1PE.

 Rhagolwg: Dydd Gwener 4ydd Hydref 6-8yh yn 16 Stryd Y Coleg, 8yh – hwyr yn oriel elysium

 Mae’r arddangosfa’n parhau tan Ddydd Sadwrn Hydref 12fed (ac eithrio oriel elysium, sy’n parhau tan Tachwedd 9fed)

 Orielau ar agor: Mawrth – Sad 12 – 5yh (ac eithrio oriel elysium, ar agor tan 7yh)

I ddathlu hanner canmlwyddiant Abertawe o ddod yn ddinas, mae oriel elysium a Choleg Celf Abertawe (CCA) yn cynnal arddangosfa ddathlu. Wedi’i guradu gan ddau fyfyriwr cyfredol CCA, Alicia Hughes ac Alice Oliver, bydd 50fifty yn arddangos hanner cant o artistiaid o CCA o’r hanner canrif ddiwethaf ac yn cael eu lledaenu ar draws tri lleoliad yng Nghanol Dinas Abertawe.

 Gan ddathlu’r gymysgedd gyffrous o artistiaid o CCA dros y blynyddoedd sydd wedi cael eu hysbrydoli gan ein dinas, bydd 50fifty hefyd yn rhan o Ŵyl Ymylol Abertawe eleni a fydd yn cael ei chynnal yn ystod penwythnos cyntaf mis Hydref.