Ry’n Ni’n Byw’n Bellach I’r Dde Na Chi

elysium oddi ar safle

STIWDIOARTISTIAID

RHWYDWAITHCYMRU #1

Lleoliad: Undegun, Stryd Regent, Wrecsam, LL11 1SG

(we’re from further south than you) Ry’n Ni’n Byw’n Bellach I’r Dde Na Chi

Kate Bell | Philip Cheater | Hannah Downing | Folds Mark | Konstantinos Grigoriadis | Lauren Heckler | Ann Jordan | Scott Mackenzie | Eifion Sven-Myer | Jonathan Powell | Euros Rowlands | Daniel Staveley | Kathryn Anne-Trussler

Rhagolwg: Dydd Gwener Mehefin 22ain 7yh

Sgyrsiau artistiaid: Dydd Sadwrn Mehefin 23ain

Yn parhau tan Gorffennaf 21ain

Mae (we’re from further south than you) Ry’n Ni’n Byw’n Bellach I’r Dde Na Chi yn lansio’r gyntaf o gyfres o arddangosfeydd a digwyddiadau rhwydweithio sy’n dwyn ynghyd rhwydweithiau Stiwdios Artist o bob cwr o Gymru i greu llwyfan ar gyfer rhannu sgiliau, annog sgyrsiau creadigol a meithrin prosiectau newydd.

Bydd yr arddangosfa a’r digwyddiad rhwydweithio hwn yn arddangos gwaith gan artistiaid stiwdios oriel elysium, Abertawe, tra bydd gydlynwyr artistiaid, ysgogwyr ac ymarferwyr o oriel elysium wrth law i siarad am eu gwaith a’r hyn sy’n digwydd yn Ne Cymru trwy gyfres o gyflwyniadau a thrafodaethau grŵp.

Hefyd yn bresennol bydd artistiaid ac enghreifftiau o’u gwaith gan CALL

(Culture Action Llandudno), CARN (rhwydwaith Artistiaid Rhanbarthol Caernarfon)

a digwyddiad stiwdio agored gan yr artistiaid yn Undegun.

Nod Rhwydwaith Stiwdios Artist Cymru yw cyfrannu at rannu arbenigedd, ymchwil a syniadau ar draws artistiaid ac orielau sy’n cael eu cadw ar wahân yn ddaearyddol yng Nghymru.