Amdanom Ni



 Wedi’i sefydlu yn 2007, crëwyd elysium i gefnogi a hyrwyddo’r celfyddydau yn Abertawe a thu hwnt gyda phwyslais ar gydweithio a chymuned.

 Rydym yn ymroddedig i feithrin cymuned greadigol fywiog, gynhwysol ac arloesol trwy ddathlu celf gyfoes a’r effaith y gall ei chael ar fywydau pobl.

 Ein cenhadaeth yw darparu gofod croesawgar lle gall artistiaid, selogion celf, a’r gymuned ehangach gysylltu, ysbrydoli ac ymgysylltu â phŵer trawsnewidiol y celfyddydau.

 Rydym yn sefydliad a arweinir gan artistiaid sy’n annog balchder a chyfranogiad yn y  celfyddydau gweledol a pherfformio lleol mewn amgylchedd sy’n hyrwyddo addysg, cyfranogiad, arbrofi, rhyddid, a gwerthfawrogiad ym mhob ymarfer creadigol. Ni hefyd yw darparwyr stiwdios artistiaid mwyaf Cymru.

 Ein prif amcanion yw:

 Cefnogi Artistiaid: Rydym yn hyrwyddo artistiaid newydd a sefydledig, gan roi llwyfan ac adnoddau iddynt arddangos eu gwaith a chyrraedd cynulleidfaoedd ehangach.

 Ymgysylltu Cymunedol Cynhwysol: Rydym yn ymroddedig i greu amgylchedd cynhwysol sy’n adlewyrchu ac yn dathlu cefndiroedd, safbwyntiau a phrofiadau amrywiol ein cymuned.

 Addysg ac Allgymorth: Trwy amrywiaeth o raglenni, gweithdai, a digwyddiadau, ein nod yw addysgu ac ysbrydoli unigolion o bob oed a chefndir. Rydym yn ymdrechu i wneud celf yn hygyrch ac yn ystyrlon I bawb.

 Cyfoethogi Diwylliannol
: Credwn yng ngrym celf i gyfoethogi bywydau a chryfhau cymunedau. Trwy guradu arddangosfeydd a digwyddiadau amrywiol sy’n ysgogi’r meddwl, rydym yn annog deialog, myfyrio a gwerthfawrogiad o’r celfyddydau.

 Cynaliadwyedd ac Arloesi: Rydym yn ymroddedig i arferion cynaliadwy a dulliau  arloesol sy’n sicrhau hirhoedledd a pherthnasedd ein hartistiaid oriel a stiwdio.

Ein Hanes

For information on Accessibility and Engagement click here