Angela Dickens: Gwynebau yn y Llwyn Gwyrdd
Rhagolwg: Dydd Iau 2 Chwefror 6yh
Arddangosfa’n parhau tan 18 Mawrth
Mae oriel elysium yn falch o gyflwyno’r arddangosfa hon o beintiadau newydd gan yr artist o Abertawe, Angela Dickens.
Crëwyd y peintiadau dros y flwyddyn ddiwethaf yn dod allan o gyfnodai cloi’r pandemig. Mae’r corff newydd hwn o waith yn cynnig pytiau a myfyrdodau haniaethol o’i phrofiadau bywyd wrth i’r byd geisio dychwelyd i ryw fath o normalrwydd.
Mae delweddaeth freuddwydiol isymwybodol yn gwrthdaro â delweddau ymwybodol adnabyddadwy wrth i atgofion ddod i’r amlwg gyda thirweddau a ffigurau.
‘Mae fy mheintiadau yn gymdeithasol-wleidyddol. Rwy’n ymdrin â materion sy’n wynebu pobl mewn cymdeithas heddiw. Yn troi paent yn iaith bersonol fy hun o emosiynau a meddyliau cryf i gyfleu emosiynau crai. Mae negyddion yn troi’n bositif. Mae delweddu yn troi’n realiti’.
Astudiodd Angela gelfyddyd gain ym Mhrifysgol Swydd Stafford 1989-1992 ac ar hyn o bryd mae ganddi stiwdio gydag oriel elysium yng nghanol dinas Abertawe.