Arlunio Bywyd yn elysium

Rydym yn eich croesawu i ymuno â’n sesiynau arlunio bywyd cyfeillgar ac anffurfiol mewn amgylchedd hamddenol ac atmosfferig. Rydym yn darparu deunyddiau arlunio sylfaenol gan gynnwys pensiliau, siarcol, peniau ffelt a phapur. Dewch ag unrhyw beth mwy penodol gyda chi.


I ddechrau, rydym yn newid ein modelau (anwisgiedig) bob yn ail gan ddechrau gydag ystumiau byr, gyda’r hyd yn raddol yn mynd yn hirach yn ystod y noson. Rydym yn cael egwyl te/ cwrw hanner ffordd. Sesiynau galw heibio yw’r rhain, felly nid oes angen bwcio.

Tâl: £7 ac rydych chi’n cael diod AM DDIM o’r bar.
Bydd y dosbarthiadau fel arfer ar nos Fawrth 6.30 -8.30yh ond weithiau ychwanegir dyddiadau ychwanegol a gallai’r amseroedd amrywio.

*** Mae Arlunio Bywyd yn elysium ar gau ar hyn o bryd oherwydd y pandemig parhaus COVID-19, ond mae dosbarthiadau ar-lein yn cael eu cynllunio. Gweler ein hadran rhaglen ***