6 – 8yh bob yn ail Ddydd Mawrth yn stiwdios elysium, Llawr Cyntaf, 34a Stryd y Berllan, SA1 1PE
Sesiynau arlunio bywyd cyfeillgar ac anffurfiol. Rydym yn darparu deunyddiau arlunio sylfaenol gan gynnwys pensiliau, siarcol, pinnau ffelt a phapur. Dewch ag unrhyw beth mwy penodol. Rydym yn newid ein modelau bob sesiwn. Mae’r model yn dechrau gydag ystumiau byr, yn raddol yn mynd yn hirach yn ystod y noson.
Rydym wastad yn cael egwyl te hanner ffordd. Sesiynau ‘drop-in’ yw rhain, felly nid oes angen archebu.
Ffi: £7 (deiliaid stiwdios elysium a myfyrwyr £5)
Ebrill: 2il, 16eg, 30ain
Mai: 14eg, 28ain
Mehefin: 11eg, 25ain
Gorffennaf: 9fed, 23ain
E-bostiwch info@elysiumgallery.com am ragor o wybodaeth