Arddangosfeydd yn agor Dydd Sadwrn Tachwedd 28ain, Hanner Dydd
Yn parhau tan Ddydd Sadwrn Ionawr 23ain 2021
Oriel ar agor Dydd Mercher – Dydd Sadwrn, 12 – 7yh trwy apwyntiad yn unig.
(edrychwch ar wefan oriel elysium am oriau agor amser Nadolig)
Mae oriel elysium mewn partneriaeth ag Amgueddfa Abertawe a Fusion yn falch o gyflwyno ‘Ways of Protest’ (Ffyrdd o Brotest), arddangosfa helaeth sy’n edrych ar sut y gellir defnyddio’r celfyddydau fel cyfrwng i brotestio, a sut y gall actifiaeth ac awydd am newid cymdeithasol yrru creadigrwydd unigol a chyfunol.
Bydd gweithiau celf cyfoes yn cyd-fynd âg arteffactau archifol o gasgliad helaeth Amgueddfa Abertawe ynghyd â memorabilia, ffotograffau, cyfweliadau a gweithiau celf a ddarperir gan dros 100+ o unigolion a sefydliadau o Abertawe a Chymru.
Mae Ways of Protest (Ffyrdd o Brotest) yn rhan o ŵyl ‘Change Makers’ Abertawe, dathliad o bobl, symudiadau a sefydliadau sydd wedi ymladd dros gydraddoldeb cymdeithasol yn Abertawe a’r byd ehangach.
Dros y misoedd nesaf bydd Change Makers yn rhannu rhai o straeon a phrofiadau pobl sydd wedi teimlo gorfodaeth i wneud ein cymuned yn lle tecach a mwy cyfartal i bawb. Bydd diweddariadau ar weithdai, arddangosfeydd, podcasts, sgyrsiau a dadleuon yn cael eu rhyddhau yn rhad ac am ddim dros y misoedd nesaf ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol oriel elysium a Change Makers.
I gael mwy o wybodaeth a dolenni ar weithgareddau Change Makers, ymunwch â ni ar ein grŵp Facebook newydd: https://www.facebook.com/groups/684778658797936
neu dilynwch ni ar Instagram: https://www.instagram.com/changemakersswansea/?hl=en
www.changemakersswansea.weebly.com
Bydd RHAID i ymwelwyr yr arddangosfa Ways of Protest (Ffyrdd o Brotest) BWCIO amser AM DDIM.
Oherwydd COVID -19 mae gennym allu cyfyngedig i sicrhau diogelwch y cyhoedd a staff.
Bydd drysau’r arddangosfa yn elysium yn agor ar yr awr bob awr am ddeg munud rhwng Hanner Dydd a 6yh.
Os ydych chi eisiau cadw slot arall yn syth ar ôl er mwyn i chi allu treulio mwy o amser gyda’r arddangosfa yna gallwch chi wneud hynny, cyhyd â bod lleoedd yn rhydd.