Dalit Leon
Time Signatures/ Llofnodion amser
Rhagolwg Dydd Gwener 6ed o Fai, 2016 – 19:00
Arddangosfa’n parhau tan 4ydd o Fehefin
Ar agor Dydd Mercher – Sadwrn 12 – 5yh
Mynediad am Ddim
Ar gyfer ei arddangosfa diweddaraf bydd Dalit Leon, a chafodd ei geni yn Israel ac sy’n byw yng Nghymru ers 2001, yn archwilio syniadau sy’n cwmpasu synnwyr a chanfyddiad, iaith symbolaidd a faterol, yn ceisio egluro’r syniad o undod trosgynnol.
Corff newydd o waith yw Time Signatures/Llofnodion Amser sydd yn rhagflaenu newid cyfeiriad i’r artist trwy gyflwyno gwlân a phrosesau ffeltio a nyddu, yn eu hintegreiddio i mewn i ymarfer cynradd Dalit o beintio. Mae’r elfennau newydd yma yn cyflwyno agwedd arall o fateroldeb, ac o ganlyniad iaith synhwyraidd sy’n ymgorffori nodweddion elfennol, cyfeiriadau symbolaidd a chyd-destyn diwylliannol.
Yr ymchwil ganolog yw mewn creu mannau rhithiol o fewn a thu hwnt i’r arwynebau dau-ddimensiwn a hwyluso teithiau dychmygus ynddo. Diddordeb parhaus yr artist yw i egluro’n bellach y teimlad yma o undod mewn amrywiaeth o ffurfiau sy’n cyfeirio at fframwaith metaffisegol a’r syniad bod ymwybyddiaeth wedi ei wehyddu yn gynhenid i mewn i ffabrig realiti.
Yn arwain i fyny ac yn ystod yr arddangosfa bydd cyfres o weithdai, yn archwilio’r cyfnewidioldeb a gorgyffwrdd y brofiad synhwyraidd sy’n ymddangos yn y cyflwr synesthesia. Dyma lle gall (er enghraifft) cerddoriaeth cael eu teimlo fel lliw, sy’n awgrymu amryw o gysylltiadau ac undod dwys, gan greu iaith newydd lle mae’r nodau cerddorol yn ymgorffori sbectrwm o liwiau, yn cyfieithu’n gorfforol amrediad o emosiynau pobl ar y synau.
Cyn symud i Gymru bu Dalit yn byw ac yn astudio celf yn yr Hague, ac yna gwblhaodd ei gradd BA yng Ngholeg Celf Abertawe yn 2010 a MA ym mheintio yn y Coleg Celf Brenhinol, Llundain 2011-13. Dilynwyd hyn gan ei arddangosfa unigol cyntaf yn Oriel Q, Arberth, a chymrodd rhan mewn cyfnewid artistiaid rhwng Colorado ac Abertawe ag arweinir gan orielysium. Yn ddiweddar, ennillodd Dalit y wobr Osi Rhys Osmond ar gyfer llyfr arlunio yn PCYDDS Caerfyrddin, ac mae hefyd yn ddarlithydd gwadd cyson yn PCYDDS Abertawe a Chaerfyrddin.
Bydd Dalit yn siarad am ei ymarfer a’r arddangosfa ar Ddydd Sadwrn 4ydd o Fehefin am 14:00. Croeso i bawb.