Heather Parnell – O Gwmpas y Tŷ


Event Details

  • Date:
  • Categories:

Mae’r gwaith hwn yn ymateb i, ac yn gofnod o’r ymyl, y ffin, y perimedr, y terfyn rhwng cartref yr artist a gweddill y byd yn ystod y pandemig. Mae Heather Parnell yn artist gweledol sydd â diddordeb yn y pethau cyfarwydd sy’n ffurfio tir cyffredin profiadau ac arferion dynol beunyddiol, a’r berthynas rhwng y gwrthrychau hyn a’r bywydau rydyn ni’n byw. Mae hi’n pwytho, argraffu, arlunio, a chastio, gan archwilio potensial deunydd i ddatgelu a thrawsnewid y pethau hynny sy’n agos at law, sy’n aml yn cael eu hanwybyddu ac yn yr achos penodol hwn, dan draed.

Mae Heather Parnell yn rhannu ei hamser rhwng ei hymarfer stiwdio, addysg celf a’r Celfyddydau mewn Iechyd. Mae hi wedi derbyn gwobrau ac ysgoloriaethau gan Ymddiriedolaeth Leverhulme, Cyngor Celfyddydau Cymru, a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, wedi arddangos yn eang ac ymgymryd â phreswyliadau yn yr Aifft, Siapan a’r DU.

www.heatherparnell.wordpress.com

Instagram: @heatherwinterparnell