Shore Leave


Event Details

  • Date:

Lleoliad: Warws Pantywylan, Cambrian Quay, Aberteifi
Rhagolwg: Dydd Sadwrn, 116ed o Awst, 1 – 7yh
Oriau agor: Sad 16eg, 1-7yh / Sul 17eg, 11yb – 4yh / Sad 23ain, 1 – 7yh / Sul 24ain, 11yb – 4yh / Llun 25ain, 1 – 7yh / Sad 30ain, 1 – 5yh

Arddangosfa o artistiaid a ddewiswyd gan Oriel Elysium yw Shore Leave, a gwahoddwyd i gymryd drosodd yr hen warws Pantywylan, yng nghanol Aberteifi, yn ystod y rhaglen o ddigwyddiadau Colony2014. Ers iddo gael ei sefydlu yn 2007, mae Oriel Elysium wedi hyrwyddo amrediad eang o arddangosfeydd, digwyddiadau a stiwdios mewn gwahanol adeiladau sydd wedi fod yn wag hir-dymor ar draws Abertawe, fel leoliad ‘pop-up’ crwydrol i ddechrau, ac yna ledaenu ymhellach i rannau eraill o’r DU, Biennale Fenis 2011, a Cholorado yn 2014, cyn sefydlu mewn clwb nos segur yng nghanol Dinas Abertawe. Mae’r arddangosfa yn cymryd ei enw o’r cyfnodau o amser y caniatéir i forwyr fod ar dir sych yn ystod fordeithiau hir. Ar un adeg, Shore Leave oedd bla ar brif drefi porthladd fel Aberteifi yn y 18fed a 19eg ganrifoedd, ble roedd cannoedd o aelodau’r criw fordeithio yn disgyn ar y dref a gorlwytho ar y pleserau nad oedd ar gael iddynt yn ystod y misoedd ar fordeithiau hir. Roedd y bobl yma allan o drefn arferol bywyd ar y môr, ac ar dir anghyfarwydd rhwng leoedd. Arweiniodd hyn at ymddygiad eithafol ac anrhagweladwy.

Dr McCoy: [cyfathrebu i fyny at y llong] Capten, a ydych yn peledru i lawr? Capten James T. Kirk: Nid oeddwn wedi bwriadu, Bones. Pam?
Dr McCoy: Wel, naill ai mae ein chwiliedyddion sgowtiaid a synwyryddion yn camweithio, ac mae pob un ohonom ni sgowtiaid yn ddiofal a harddwch- feddw, neu mae’n rhaid i mi fy ngohebu fy hun yn anaddas ar gyfer dyletswydd.

Capten James T. Kirk: Esboniwch.
Dr McCoy: Ar y blaned yma a ddisgrifiwyd yn anghyfaneddol, rydw i newydd gweld cwningen mawr yn tynnu oriawr aur o’i fest, a honni ei fod yn hwyr. Capten James T. Kirk: Mae hwna’n eitha da, Bones. Iawn, mae gen i un i ti: mae’r cwningen yn cael ei ddilyn gan ferch penfelen, ie?

Dr McCoy: Fel mater o ffaith, ie, ac maent yn diflannu drwy dwll mewn gwrych.
Capten James T. Kirk: Ocê, Doctor, fe wnai ystyried dy adroddiad.

Detholiad o Star Trek, pennod: Shore Leave, 1966.

Nawr yn cyrraedd Aberteifi, mae’r artistiaid yn cwmpasu amrywiaeth eang o gyfryngau, o berfformans i beintio, ffotograffiaeth i waith ffilm, a byddent yn chwarae gyda’r confensiynau o ffaith a ffuglen, gwybodaeth a dychymyg.

www.elysiumgallery.com

www.colonyprojects.co.uk

Cysylltwch â Lee Williams at Brosiectau Wladfa (Colony Projects) i drefnu ymweliadau a gwybodaeth am deithiau yn ystod dyddiau’r wythnos e-bost: wlee5213@gmail.com
ffôn: 07976110629

Mae Prosiectau Wladfa yn sefydliad di-elw a redir gan artistiaid sy’n anelu at ddal ysbryd cymuned annibynnol, creadigol, drwy annog artistiaid a chydweithfeydd i gymryd mwy o reolaeth o seilwaith a chyd-destun pob prosiect.

Eu nod yw darparu celf gweledol o safon uchel a phrosiectau addysgol; Hyrwyddo prosesau celf amlddisgyblaethol o fewn y cyd-destun o fyd diwylliannol ehangach, ac i adeiladu perthnasau newydd ymhlith y gweithgareddau creadigol amrywiol a hunaniaethau yng Ngorllewin Cymru a thu hwnt. Wedi ei sefydlu gan artistiaid Lee Williams a Chloe Reynolds, mae Prosiectau Wladfa yn ymdrechu i sicrhau bod artistiaid a myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn cael gwbl rhyddid creadigol ac yn gallu gwneud gwaith sy’n ymestyn y ffiniau o gelf a diwylliant cyfoes.