Rhagolwg/Preview: 22/09/23 7yh/7pm
Arddangosfa’n parhau tan ddydd Sadwrn 28 Hydref
exhibition continues until Saturday October 28th
Oriel ar agor Dydd Mercher – Dydd Sadwrn 11yb – 9yh
Gallery open Weds – Sat 11am – 9pm
Sgwrs artist ar-lein Dydd Mawrth TBC Hydref 7.30yh
Mae’r arddangosfa hon, sy’n gydweithrediad rhwng oriel elysium a Ffotogallery, yn arddangos gwaith diweddar gan Fatoumata Diabaté, ffotograffydd Maliaidd o Bamako. Gyda diddordeb arbennig yn lle merched mewn cymdeithas, mae Fatoumata yn llywydd y Association des Femmes Photographes du Mali. Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos yn eang mewn arddangosfeydd unigol a grŵp ac mae hi wedi derbyn sawl gwobr. Yn 2020 dyfarnwyd iddi’r Gwobr Ffotograffiaeth Musée du Quai Branly – Jacques Chirac yn Ffrainc.
Ochr yn ochr â’i phortreadau hudolus, breuddwydiol a ysbrydolwyd gan lên gwerin a straeon tylwyth teg o’i phlentyndod, L’homme en object et L’homme en animal, mae’r arddangosfa hon yn dangos Ni-missa (sy’n golygu gofid yn yr iaith Bambareg) am y tro cyntaf yn y DU.
Trwy dangos hanes cyfffredin sawl menyw a oedd, fel yr artist, wedi dioddef anffurfio organau cenhedlu (FGM), mae’r delweddau sy’n ffurfio Nemissa yn cyfrannu at broses o ailffurfio hunaniaeth fenywaidd goll yr hunan preifat a phersonol, hunaniaeth a ddygwyd ac sydd wedi diflannu.