Gwobr Peintio Rhyngwladol Beep 2020
Lleoliad: Oriel Elysium, 210 & 211 Stryd Fawr, Abertawe SA1 1PE
Agor: Dydd Sadwrn 3ydd o Hydref o hanner dydd
Parhau Tan: Mis Tachwedd y 7fed
Ar Agor: Dydd Mercher – Sadwrn 12-7yh (Dydd Mawrth trwy apwyntiad)
Lansiwyd yn 2012, mae Beep (Bi-Ennial Exhibition of Painting) (Arddangosfa Eilflwydd o Beintio) yn wobr peintio gyfoes sy’n dwyn ynghyd artistiaid o bob cwr o’r byd. Yn digwydd bob 2 flynedd, mae Beep yn cefnogi ymarfer dychmygus a bywiog mewn peintio cyfoes.
Eleni, mae Beep yn dychwelyd gyda rhaglen estynedig o arddangosfeydd a symposiwmau lloeren yn ymwneud â pheintio, ynghylch y brif sioe wobr mewn partneriaeth ag orielau Abertawe a Chaerdydd.
Y dewiswyr eleni ar gyfer y brif sioe wobr yw’r artistiaid enwog Steph Goodger & Enzo Marra a ddewisodd 107 o beintwyr. Bydd y prif enillydd yn derbyn £1000 ac arddangosfa unigol gydag oriel elysium yn 2020.
Eleni mae DAU wobr artist Cymreig, gyda £200 wedi ei noddi gan Gyfeillion y Glynn Vivian a Gwobr André Stitt ar y cyd ag oriel TEN, Caerdydd. Dyfarniad o £1000 yw hwn i gefnogi ymarfer peintiwr Cymreig neu beintiwr wedi’u lleoli yng Nghymru. Codwyd yr arian Wobr trwy werthu astudiaethau paratoadol, a baentiwyd gan Stitt yn ystod cyfyngiadau symud pandemig 2020, gyda’r pris gwerthu wedi’i neilltuo fel dyfarniad i dderbynnydd wedi’i ddewis gan Stitt a gyfarwyddwr oriel TEN, Cat Gardiner. Mae yna hefyd wobr y bobl o £200 a ddewiswyd gan ymwelwyr i’r sioe.
Artistiaid: Susan Absolon | Edwin Aitken | Sinead Aldridge | Jonathan Alibone | Iain Andrews | Keith Ashcroft | Kay Bainbridge | Alice Banfield | Tom Banks | Agnieszka Katz Barlow | Pip Barrett | Helena Benz | Jo Berry | Karl Bielik | Fiona Birnie & Kevin Broughton | Yvette Blackwood | Dominic Blower | Ciaran Bowen | Patrick Brandon | Valerie Brennan | Jeannie Brown | Kena Brown | Christy Burdock | Trevor Burgess |Ethan Caflisch | Max Cahn | Lisa Carter – Grist | Louisa Chambers | Brian Cheesewright | John Wyatt Clark | Tom Climent | Lara Cobden |Natasha Conway | Julie D Cooper | Michael Coppelov | Gordon Dalton | Angelina Davis | Gwenan Davies | Lucy Donald | Amanda Doran | Sam Douglas | Tom Down | Tamara Dubnyckyi | Andrew Ekins | Liz Elton | Elinor Evans | Rosalind Faram | Helen Finney | Sally Gatie | Amy Goldring | Tess Gray | Gareth Griffith | Penny Hallas | David Hancock | Jeb Haward | Benjamin Heiken | Dan Hollings | Lucy Howson | Laura Hudson | Graham Jones | Marion Jones | Isaac Jordan | Gareth Kemp |Arron Kuiper | Brendan Lancaster | Rachel Lancaster |Elizabeth Langley | Thais Lenkiewicz | Daleet Leon | Graham Lister | Geoff Litherland | Cathy Lomax | Juliette Losq | Paula MacArthur | Ranald MacDonald | Gavin Maughfling | Eilish McCann |Rachel McDonnell | Sharon McPhee | Tim Millen | Steve Moberly | Susan Montgomery | Kate Murphy | Ruth Murray | Daniella Norton | Beatrice O’Connell | Tom Palin | Alison Pilkington | Olha Pryymak | Freya Purdue | James Quin | Jason Rouse |Nicole Schaefer | Luke Skiffington | Andre Stitt | Uzma Sultan | Christopher Tansey | Clare Thatcher | Katie Trick | Joshua Uvieghara | April Virgoe | Kate Walters | Henry Ward | Grant Watson | Emrys Williams | Fionn Wilson
Delwedd: Tom Millen ‘Conference’ 2020
Ychwanegol:
Am fynediad ar Ddydd Mawrth anfonwch e-bost i Jonathan Powell – jonathan@elysiumgallery.com neu ffoniwch 07980925449 a threfnwch apwyntiad.
* Eleni oherwydd cyfyngiadau parhaus COVID-19 ni fydd noson ragolwg benodol ac yn lle hynny byddwn yn agor ein drysau i’r arddangosfa ar y diwrnod. Byddwn yn cyfyngu ar nifer y bobl a ganiateir i’r Oriel ar unrhyw un adeg ac yn cyflwyno nifer o fesurau eraill i gadw ein hymwelwyr a’n staff yn ddiogel. Byddwn yn aros ar agor tan hwyr a bydd arddangosfeydd eraill yn agor yn ac o amgylch Abertawe ar Ddydd Sadwrn 3ydd o Hydref. Felly byddwch yn amyneddgar a bydd pawb yn cael gweld y sioeau.