Laura Ford | Cherry Pickles | Zoe Gingell | Zena Blackwell | Adele Vye | Fern Thomas | Raji Salan
Saith o Artistiaid Aruthrol Benywaidd Cymreig yn Archwilio ac yn Tarfu ar Ystyr Enw Cyfarwydd.
Arddangosfa gelf gyfoes ddeinamig ac amserol yw Enw Cyfarwydd sy’n cynnwys saith artist benywaidd Cymraegg ac wedi’i lleoli yng Nghymru sy’n gweithio ym maes paent, cerflunio, ffilm, ffotograffiaeth, testun a pherfformio. Yn amrywio o ymarferwyr o fri rhyngwladol i artistiaid sy’n dod i’r amlwg, a phob un yn cynhyrchu gweithiau beiddgar, arloesol, cyffrous ac atyniadol, mae Enw Cyfarwydd yn cynnwys ymatebion uniongyrchol i’r teitl o gwestiynu’r gwleidyddol a’r gwyddonol, hyd at ymchwiliadau i’r lleoliad domestig trwy ddewiniaeth, hunaniaeth rhywedd a newid yn yr hinsawdd.
Mae dod yn enw cartref fel artist ar y cyfan yn gamp anghyraeddadwy, ond eto mae enwau cyfarwydd yn niferus o fewn gymdeithas ac yn awgrymu enwogrwydd a drwg-enwogrwydd. Ond beth sy’n dilysu rhywun neu rywbeth i ddod yn un? Dynion yw mwyafrif yr artistiaid enw cyfarwydd a bu erioed, felly mae Enw Cyfarwydd yn ceisio unioni’r anghydbwysedd hwn yn ogystal â’r annigonolrwydd o ran cynrychiolaeth rhywedd mewn amgueddfeydd ac orielau. Mae arweinwyr cwlt drwgenwog, olion dynol yn y tŷ, syniadau canfyddedig aelodau’r teulu, argaeledd y rhiant sy’n gweithio i’w epil, normau rhywedd ac o fod wrth ymyl chwalfa hinsawdd yn rhai o’r themâu y craffwyd arnynt yn Enw Cyfarwydd.
Mae’r cerflunydd Laura Ford wedi arddangos yn helaeth ac mae ganddi waith mewn sefydliadau mawr gan gynnwys TATE, V&A ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Mae Cherry Pickles yn dysgu yn yr Ysgol Arlunio Frenhinol, Llundain, ac mae hefyd wedi arddangos yn helaeth, yn fwyaf diweddar gyda Coombs Contemporary a Kapil Jariwala; Mae Zoe Gingell yn gyfarwyddwr MADE Caerdydd sydd wedi bod yn allweddol yn gyrru gyrfaoedd llawer o artistiaid gyrfa gynnar Cymreig a wedi’i lleoli yng Nghymru tra bod Zena Blackwell yn archwilio rôl destun pryder y rhiant, ac enillodd y Wobr 1af yng Ngwobr Agored MADE Caerdydd yn ’17 a’r flwyddyn yma daeth yn 3ydd yn ‘PAINT’ PS Mirabel (Manceinion). Ar hyn o bryd mae gan Fern Thomas Gymrodoriaeth a gefnogir gan Sefydliad Y Freelands yn g39, Caerdydd, ac mae’n dderbynnydd Bwrsariaeth Jerwood 2019; Mae Adele Vye wedi ennill Artist Cymreig y Flwyddyn a dyfarnwyd Gwobr Goffa John Brookes am Gelf Gain iddi; tra enillodd Raji Salan wobr deithio BA ar ôl graddio ac mae wedi arddangos mewn nifer o arddangosfeydd gan gynnwys Gwobr Arlunio Jerwood (ddwywaith) ac yn fwyaf diweddar Galeri yng Nghaernarfon.
Mae Enw Cyfarwydd yn cael ei guradu gan Zena Blackwell a sefydlodd Contemporary Cymru (Cymru Cyfoes) yn 2017. Cafodd ei tharo gan faint o gelf o safon fyd-eang a oedd yn cael ei chynhyrchu yno nad oedd wedi dod ar ei draws tra yn byw ac yn gweithio yn Llundain am bron i 20 mlynedd, lle cyd-sefydlodd y digwyddiad cerddoriaeth fyw ac amlgyfrwng Clwb Mofo a chwblhau ei MFA yn Central Saint Martins a BFA yng Ngholeg Celf Wimbledon. Mae Contemporary Cymru (Cymru Cyfoes) yn ceisio hyrwyddo a chefnogi celf ragorol a wnaed ac a ddangosir yng Nghymru i gynulleidfa ryngwladol.