Rhagolwg: Dydd Gwener Chwefror 28ain, 7yh
Sgwrs Artist: Merched Mawrth 11eg, 7yh
Arddangosfa yn parhau tan Ebrill 18fed
Oriel ar agor Mercher-Sad 12 – 7yh
Archwilir y thema ‘CRISES/ ARGYFYNGAU’ yn ei ystyron a sawl ffurf, o faterion Byd-eang i faterion personol pobl, o’r enfawr i’r macro. Os disgrifir rhywbeth fel Argyfwng, mae hyn yn cychwyn Ymateb ynom, rydym yn Ymateb mewn rhyw ffordd ac yn meddwl neu’n gweithredu mewn ffordd sydd naill ai’n wynebu neu’n ceisio ymbellhau oddi wrth y mater.
Mae’r arddangosfa yn Oriel Un yn ceisio ymgymryd â’r materion mawr hyn trwy ymatebion cerfluniol Mark, gan gynhyrchu gweithiau celf sy’n cynnig safbwynt drawsffurfiol i’r gwyliwr / cyfranogwr yn yr arddangosfa. Mae gan Mark ddiddordeb mewn ymgysylltu âg Ymatebion y gynulleidfa i’r gwaith a’r materion y mae’n eu codi. Bydd yn cynhyrchu gwaith newydd mewn ymateb i ymatebion y gynulleidfa, y tu mewn a’r tu allan i’r Oriel yn ystod y cyfnod arddangos.
Mae Folds hefyd wedi bod yn gweithio gyda chleientiaid o Crisis Abertawe ar gyfres o weithdai, gan gynhyrchu gweithiau celf cerfluniol cydweithredol i’w harddangos yn Oriel 2. Mae’r rhain yn cynnwys gweithio gyda phren (cerfio ac adeiladu) a deunyddiau sy’n gysylltiedig â’r syniad o ‘Gartref’ (carped a deunyddiau dodrefnu) i archwilio a mynegi materion digartrefedd.
Mae ymarfer Mark Folds yn defnyddio ystod eang o gyfryngau gan gynnwys cerflunio, gweithgaredd perfformiadol, gosod, testun, fideo ac ‘allosod’ i archwilio themâu sy’n codi o syniadau hunaniaeth a lle.
Gan ddefnyddio’r ymyrraeth o wrthrychau ymreolaethol ac byrhoedlog, a wnaed ar gyfer lleoliadau penodol, mae ei ymarfer wedi esblygu i gynnwys ymateb aml-haenog i leoedd, gan ysgytio’r synhwyrau i sylwi ar y bob dydd. Mae tanysgrifio i’r syniad o ‘Gelf fel Berf’ yn sail i’r cymhellion y tu ôl i’w allbwn a’i ddulliau gweithio diweddar.
Mae hyn wedi helpu i bontio’r bwlch rhwng y bydoedd Celf Gyhoeddus (yn ei ystyr draddodiadol) a Celf yn Gyhoeddus (arddangos, ymyriadau), gan greu ‘lle’ unigryw i’r gwaith fodoli.
Graddiodd Mark gyda BA mewn Celf Gain o Ysgol Gelf Wimbledon ym 1986. Ers hynny mae wedi arddangos, darlithio a gwneud Celf Cyhoeddus a Chelf yn Gyhoeddus yn rhyngwladol, yn arbennig yn tarddu ac yn sefydlu’r prosiect celf ‘ilovepeckham’ yn Llundain ym 1996 sy’n parhau yn bresennol.