SAI’N DOD O FAN HYN / Galwad am artistiaid

SAI’N DOD O FAN HYN

Galwad am artistiaid

Mae O’r Orsaf i’r Môr ac orielysium yn falch o fod yn cynnig cyfle artist preswyl yn eu safle ar Stryd Fawr, Abertawe, i ddechrau ym mis Gorffennaf, 2016.

Am y cyfnod preswyl

O’r Orsaf i’r Môr yw brosiect a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru am Stryd Fawr, Abertawe, wedi’i gyd-drefnu gan Theatr Volcano a Grŵp Tai Coastal, gyda’r ddau wedi’u lleoli ar y Stryd Fawr.

Mae orielysium yn rhedeg oriel a stiwdios artistiaid ar draws tri safle yn y ddinas, gan gynnwys stiwdios (lle bydd y cyfnod preswyl yn digwydd) yn yr un adeilad â Volcano.

Un rhan o raglen o brosiectau amrywiol ond cysylltiedig am Stryd Fawr Abertawe yw’r preswyliad – y syniad o’r Stryd Fawr, realiti y lle, a’r posibiliadau o’i drawsnewid.

Mae pob prosiect yn y rhaglen yn gafael yng nghanfyddiadau neu bryderon penodol, ac yn canolbwyntio ar anghenion a dymuniadau etholaethau penodol. Trwy gweithio gyda phreswylwyr, masnachwyr, ysgolion, gweithwyr, cymudwyr, ymwelwyr a phobl sydd wedi’u heithrio’n gymdeithasol, mae O’r Orsaf i’r Môr yn anelu at amharu ar y berthynas pŵer cyffredinol trwy ymyriadau dychmygus o fewn bydoedd fateryddol a gymdeithasol y stryd, gan ysbrydoli cymunedau i ail-ddychmygu’u hamgylchedd mewn ffordd greadigol ac awdurdodedig.

Ar gyfer y preswyliad hwn, mae ganddom ddiddordeb mewn gweithio gydag artist sydd yn gallu cynnig golwg newydd ar Stryd Fawr Abertawe – artist sydd ddim yn dod o fan hyn. Mae gennym ddiddordeb mewn persbectif allanwr; rydym am gael profiad o ble rydym yn byw a gweithio o safbwynt rhywun sy’n newydd i’r ddinas. Mae tua 4.5 miliwn o bobl yn ymweld âg ardal Bae Abertawe bob blwyddyn, ond faint ydym wir yn deall am sut y maent yn cael profiad o’r ardal, yn enwedig y Stryd Fawr?

Mae’r mathau canlynol o gwestiynau yn ddiddorol i ni:

Sut ydych chi’n cael profiad o lle am y tro cyntaf?

Sut beth yw i beidio a ddod o fan hyn?

Beth mae’n golygu i ddod i nabod lle?

Ac mae gennym ddiddordeb mewn sut y gallai eich perthynas gydag Abertawe newid erbyn diwedd y prosiect.

Bydd gennych mynediad 24 awr at eich stiwdio (12troedfedd x 8 troedfedd) a chymorth yn ôl yr angen i ymchwilio a datblygu syniadau ar y thema ‘Sai’n dod o fan hyn’. Yr ydym yn hyblyg ynghylch yn union faint o’r 3 mis bydd yn cael ei wario yn Abertawe / y stiwdio a byddwn yn croesawu awgrym o hyn yn eich cynnig.

Hoffem i’r preswyliad cael canlyniad o ryw fath y gellir eu harddangos / cyflwyno / rhannu / profi naill ai yn safle Theatr Volcano neu ar Stryd Fawr Abertawe o Hydref 2016.

Am yr artist

Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan artistiaid sy’n gweithio mewn unrhyw gyfrwng sydd yn chwilfrydig i dreulio amser rhywle sy’n newydd iddynt ac i rannu’r profiad hwnnw gydag artistiaid eraill a’r gymuned ehangach. Nodwch nad yw’r preswyliad yma’n agored i fyfyrwyr. Rydym yn benodol yn annog ceisiadau gan artistiaid sydd ddim yn dod o Abertawe.

Amserlen:

Dewis artist: Ebrill – Mai 2016

Preswyliad: 4ydd Gorffennaf – 30ain Medi 2016

Canlyniad: Hydref 2016 ymlaen

Ffi: Mae taliad o £2000. Costau teithio a llety ar gael.

Cynigion

Os hoffech gael eich hystyried am y preswylfa hwn, anfonwch e-bost i Jonathan Powell yn orielysium ar jonathan@elysiumgallery.com, gan roi eich enw yn y pennawd pwnc, gyda:

  • Amlinelliad o’ch ymarfer a sut byddech yn ymdrin y preswylfa hwn (uchafswm un ochr o A4)
  • CV

– Cyflwynwyd cynnig yn amlinellu eich ymarfer a sut y byddech yn ymdrin preswyl hwn (uchafswm un ochr A4)

– CV cyfredol

– Hyd at 4 delwedd jpeg / cysylltiadau i enghreifftiau o’ch gwaith blaenorol

 

Dyddiad cau: Dydd Llun 25ain Ebrill 10yb.

Bydd cyfweliadau ar gyfer artistiaid ar y rhestr fer yn digwydd w/d yr ail o Fai.

Cysylltwch â Jonathan ar y cyfeiriad uchod os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae orielysium yn fenter hunangynhaliol a arweinir gan artistiaid, yn cynnwys mannau gweithio artistiaid ac oriel celf gyfoes dros 3 safle yng nghanol dinas Abertawe, Cymru, DU. Rydym yn cefnogi 13 siwdio artist ac oriel yn 16 Stryd y Coleg, Abertawe, 13 stiwdio yn 2 Stryd Mansel, Anertawe, a 37 stiwdio gyda mannau prosiect ac adnoddau eraill ar lawr uchaf o 27-29 Stryd Fawr, Abertawe. Ar hyn o bryd rydym yn gofalu am dros 100 o artistiaid yn ein mannau stiwdio.

Mae’r stiwdios yn ffurfio cymuned artistig sy’n galluogi artistiaid ac orielysium i gefnogi eu gilydd drwy drafodaethau gritigol, cyfleoedd preswyl, cydweithredu a rhannu sgiliau ymarferol. Mae’r stiwdios yn meithrin profiad cydweithredol a chyfranogol, yn creu canolbwynt bywiog a chreadigol tra’n annog datblygiad o fodelau busnes ar gyfer cynaliadwyedd artistig, yn cyfrannu at yr economi leol a chadw artistiaid o fewn Dinas Abertawe.

Ar hyn o bryd mae prosiect stiwdio’r Stryd Fawr yn gartref i 37 stiwdio, ardal prosiect, mannau cymunedol a nifer o raglenni preswyl. Ein nod yw creu fframwaith ar gyfer byd o syniadau ac ysbrydoliaeth a fydd yn bwydo i mewn i adfywio’r Stryd Fawr.

Mwy o wybodaeth am orielysium

Mwy o wybodaeth am O’r Orsaf i’r Môr