SGIP: Gweledigaethau Eco

Sefydlwyd SGIP/SKIP i edrych ar sut y gallai artistiaid leihau eu heffaith ar yr amgylchedd trwy archwilio gwahanol ddulliau o wneud celf a dod o hyd i ddeunyddiau celf.

Dros y 12 mis diwethaf, mae artistiaid, ac aelodau o gymuned oriel elysium sy’n ffurfio’r grŵp SGIP wedi bod yn edrych ar ddulliau gwahanol o ymdrin â’u hymarferion creadigol yng ngoleuni’r argyfwng amgylcheddol byd-eang ac effeithiau niweidiol bodau dynol ar y ddaear.

Trwy ailgylchu, uwchgylchu, ac arbrofi gyda chynhwysion naturiol, mae pob un o’r artistiaid yn yr arddangosfa hon wedi bod yn edrych o’r newydd ar yr effaith a gawn ni fel artistiaid ar yr amgylchedd. Mae’r ecosystem fyd-eang bellach ar adeg dyngedfennol ac mae angen i artistiaid arwain y ffordd gan ddangos sut mae gweithredu cydweithredol a chynaliadwy yn hynod bwysig i’n dyfodol.

Mae gweithgareddau Gweledigaethau Eco SGIP wedi bod yn cael eu cynnal yng ngofod cymunedol newydd oriel elysium o’r enw Gofodtri (Thirdspace).

Mae Gofodtri wedi datblygu i fod yn ganolbwynt ar gyfer rhannu syniadau a dysgu, gan edrych ar ffyrdd newydd y gallai artistiaid ymateb i broblemau amgylcheddol y byd heddiw, a sut y gallai cynaliadwyedd ddeillio o feddwl cydgysylltiedig rhwng gwahanol bobl a chymunedau.

Bydd gweithdy gwneud printiau galw heibio am ddim yn agored i bawb o bob gallu ddydd Sadwrn 1af Ebrill, 12-4yp yng Ngofodtri.

Artistiaid

Nazma Ali

Mae’r artist o Abertawe, Nazma Ali, yn cynhyrchu delweddau gludwaith o gylchgronau a phapurau newydd sydd wedi’u taflu. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y gwrthgyferbyniadau rhwng tirweddau trefol a naturiol a lliwiau gor-dirlawn hen hysbysebu o’i hieuenctid.

Fel menyw Brydeinig-Pacistanaidd, mae gwaith Nazma hefyd yn cyffwrdd â materion gormes menywod sy’n dal yn gynhenid mewn llawer o gymdeithasau ledled y byd.

Wedi’i magu gan ei mam Pacistanaidd gyda’i 6 brawd a chwaer yn Ne Cymru, daeth o hyd i ysbrydoliaeth yng ngardd y teulu a’r ddinaslun yng Nghasnewydd. Mae Nazma yn adrodd sut y byddai hi’n gallu dod o hyd i’r llygedyn lleiaf o natur lliwgar a sut y tyfodd y llygedyn hwn yn greadigaethau artistig yn y blynyddoedd diweddarach. O weld y cennin pedr melyn newydd sbon ar ei ffordd i’r ysgol yn blentyn, i’r darnau bach o wyrddni yn Sgwâr y Castell yn Abertawe heddiw, mae Nazma’n gweld harddwch natur yn tyfu ymhlith jyngl concrit y ddinas, a’i nod yw creu rhywbeth yr un mor hardd.

Lucy Donald

Mae Lucy Donald yn aml yn defnyddio haenau cymhleth o hanes ac arteffactau hanesyddol fel man cychwyn i ysbrydoli ei gwaith. Mae ganddi ddiddordeb yn yr arwyddion a’r symbolau sy’n creu iaith celf a’r cyd-destun y’i lluniwyd ynddo a’r cyd-destun cyfnewidiol y’i derbynnir ynddo. Mae ei gwaith wedi’i wreiddio’n ddwfn yn ei hunaniaeth Gymreig ac yn cyfuno mytholeg bersonol ac weithiau mae’n cyfeirio at ei theithiau fel twrist gan greu iaith weledol bersonol aml-haenog.

Mark Folds

Mae Mark Folds yn Artist, Addysgwr ac Actifydd, yn arbenigo mewn gwneud gwrthrychau 3d ac yn ymateb i leoliadau a chyd-destunau penodol. Ers 1983 mae wedi arddangos a dylunio/ gwneud prosiectau Celf Gyhoeddus wedi’u comisiynu yn rhyngwladol o ddeunyddiau naturiol/cynaliadwy neu wedi’u hailddefnyddio.

Mae ei ddiddordeb mewn defnyddio Cardfwrdd fel deunydd cerflunio yn deillio o Goleg Celf: bod yn ddyfeisgar, defnyddio’r hyn oedd o’n cwmpas, yr hyn oedd ar gael ac am ddim. Roedd yn ddeunydd delfrydol i’w dorri, ei siapio a’i adeiladu’n hawdd ac yn gyflym ar raddfa fawr mewn 3d, gan ddefnyddio cyn lleied â phosibl o ddeunyddiau uno. Mae gweithdai ac arddangosfa SGIP yn gyfle gwych i ‘heintio’ eraill i weithio gyda’r deunydd hwn sy’n cael ei anwybyddu’n aml.

Jonathan Green

Fy nghysyniad presennol yr wyf yn gweithio ag ef i ddiffinio un elfen o fy ymarfer celf yw “Detritus”. Wedi’i ddiffinio fel “cynnyrch dadfeiliad, dinistr, neu erydiad.” – Rwy’n defnyddio gwrthrychau a ddarganfuwyd ac a gasglwyd i greu collage 3 dimensiwn, y gellir ei ddisgrifio’n fras fel “cerflunio”, yn aml ar ffurf sy’n awgrymu bod byw, boed yn ddynol neu’n anifail, yn wrthun neu’n fytholegol.

Ffynhonnell y rhan fwyaf o’m deunyddiau yw safleoedd diwydiannol segur Abertawe a’r ardaloedd cyfagos. Mae crwydro yn yr ardaloedd hyn hefyd yn ysgogi’r ymdeimlad o dir diffaith, o le a fu unwaith yn bwerus, yn ystyrlon ac yn bwrpasol, ond sydd bellach wedi’i leihau i ddim byd ond rwbel a gweddillion. O’r rhain gall realiti newydd godi, yn frawychus ac yn ysgogol, gan fynegi rhywbeth o hanfod y cylch amser, creadigaeth, dinistr ac ailenedigaeth, gobeithio.

Artist o Abertawe yw Jonathan Green. Graddiodd mewn celfyddyd gain yn 1981, ailhyfforddodd fel seicotherapydd, gweithiodd mewn ymarfer preifat a gyda gwasanaeth ChildLine am flynyddoedd lawer. Enillodd wobr y Mileniwm yn 2000 am ei osodiadau cydweithredol “Interior Designs”, ac mae wedi arddangos ei weithiau mwy dan yr enw “Serviforce Industries” yn Llundain, Caerfaddon, Abertawe ac Aberteifi. Mae ei waith “Detritus” wedi deillio’n uniongyrchol o’i brofiad o gyfnod cloi COVID.

Demian Johnston

Mae ymarfer Demian Johnston yn adeiladu ar gorff cynyddol o waith gydag egni wedi’i ganolbwyntio gan ei gyfyngiad – “meddwl tu mewn i’r bocs”. Mae’r syniadau hyn yn rhoi gwerth ar ddigymhellrwydd, lleoliad gwrthrychau a gwneud marciau yn seiliedig ar reddf a mynegiant mewnol.

Yn wrthnysig yn ei genhedliad cychwynnol mae’r ymarfer yn dangos dimensiynau anrhagweladwy, naturioldeb, cipolygon ar yr anymwybodol, tywyll ac undonog, gan ganiatáu i’r gwyliwr ddod yn gyfranogwr wrth greu sgwrs, gan helpu’r artist i geisio deall ei ddeialog fewnol ei hun a dod o hyd i rywfaint o synnwyr yn y byd afresymol yma.

Meddai Johnston, “Mae’n bryd i bawb stopio ac edrych ar y byd gyda’r bwriad o weld pwy sy’n ein gwylio a pham. Mae’n gynyddol bwysig bod pobl yn camu’n ôl, yn edrych ar eu hunain, eu hamgylchoedd a’r byd.”

Ann Jordan

‘Fel cyfranogwr mewn cyfres o deithiau cerdded a gweithdai diweddar a drefnwyd gan elysium yn creu deunyddiau celf o gynhyrchion naturiol neu wedi’u hailgylchu, rwyf wedi ail-werthuso a gwneud newidiadau i’m hymarfer fy hun, gan fabwysiadu agwedd fwy eco yn benodol wrth ddefnyddio adnoddau. Mae hyn wedi arwain at gynhyrchu gwaith ar gyfer yr arddangosfa hon o wrthrychau a ddarganfuwyd neu a daflwyd wedi’u hailbwrpasu, rhai o hen safle diwydiannol y buom yn ymweld ag ef, a fyddai wedi’i fwriadu ar gyfer tirlenwi. Yr hyn a ddaeth i’r amlwg yw lluniadau 3D yn seiliedig ar dechnegau gwehyddu sy’n cyfeirio at broses rwy’n ei defnyddio fel artist tecstilau’.

Wedi’i lleoli yn Abertawe, Cymru, mae gwaith Ann Jordan yn aml yn ymateb i safle, sy’n cyfeirio at ddiwylliannau hanesyddol a chyfoes ac yn cynnwys mapio ein hunaniaeth bersonol a chymunedol. Ei nod yw creu perthynas rhwng y gofod domestig, preifat a lleoliad cyhoeddus y gwaith tra’n caniatáu i’r gwyliwr ailwerthuso eu barn eu hunain am brosesau a lleoedd crefftus cyfarwydd, yn aml gan ddefnyddio neu greu tecstilau. Mae’r artist yn ail-bwrpasu deunyddiau sy’n aml yn cael eu taflu neu eu bwriadu ar gyfer tirlenwi, neu’n cael ffabrigau naturiol sydd angen eu uwchgylchu.

Paul Munn

Mae Paul Munn yn artist sydd wrth ei fodd yn ymchwilio i gynnwys sgip!

‘Does gen i ddim syniad tuag at beth y gallai’r cynnwys fod yn ddefnyddiol, ond yr argraff gyntaf, y cipolwg, sy’n fy ngorfodi i naill ai tynnu’r gwrthrych neu adael iddo fod.

Does gen i ddim synnwyr o’i le terfynol mewn darn o waith, ac yn aml does unman i’w storio, ond mae her ei siâp, gwead ei arwyneb a lliw ei ffurf i gyd yn awgrymu gwireddu posibl cerflun neu osodiad. Mae’n fethodoleg organig sy’n llywio’r broses’.

Ar hyn o bryd mae Paul yn gweithio o’i stiwdio yn stiwdios elysium yng nghanol dinas Abertawe.

Sarah Poland

Y tu allan i stiwdio Sarah Poland mae baddon haearn mawr awyr agored wedi’i danio â phren lle mae’n defnyddio lliw botanegol i liwio darnau o gynfas cyn peintio. Gan fyw yn ysgafn, ym myd natur, gydag ymwybyddiaeth gynyddol o faterion ehangach llygredd plastig a newid yn yr hinsawdd, dechreuodd Sarah chwilio am ddeunyddiau cynaliadwy ar gyfer ei hymarfer creadigol. Yn 2011 tra’n byw mewn coetir yng Ngorllewin Cymru, roedd hi eisiau gwneud gwaith ‘o’r coetir’ a darganfyddodd inc afal derw. Yn ddiweddar, ehangodd ei phalet, i chwilota lliwiau botanegol o’r amgylchedd a datblygodd ardd ar gyfer tyfu planhigion lliwio.

SGIP

Mae SGIP yn cynnwys aelodau o gymuned stiwdios ac artistiaid elysium sydd i gyd yn rhannu angerdd ar newid ymagweddau anghyfeillgar amgylcheddol tuag at eu harferion artistig ac ymgysylltu’n gyfannol â’r amgylchedd naturiol.

Mae SGIP yn agored i aelodau newydd a all gyfrannu drwy rannu sgiliau a syniadau.