Mae oriel elysium yn parhau gyda’i gyfres o sgyrsiau arbennig ar-lein ac yn eich gwahodd i ddigwyddiad penodedig Zoom.
Sgwrs Artist: André Stitt
Amser: Medi’r 30ain, 7.30yh, amser DU
Ymunwch â’r cyfarfod zoom:
https://us02web.zoom.us/j/86806088385?pwd=TUtrZDJVOWJPS1RxcU9aN0NjNCtodz09
ID’r Cyfarfod: 868 0608 8385
Côd: 616961
‘Lockdown and the Submerging Artist’
Mae André Stitt yn trafod gwaith a gwneir yn ystod y cyfyngiadau symud fel ‘canol-gyrfa’ neu beth y mae’n termu’n artist ‘soddedig’.
“Pan rydych chi yn eich stiwdio, does dim rhaid i chi fod yn gynnyrch gorffenedig trwy’r amser neu wneud ynganiadau ffurfiol. Mae gwaith a chariad – y ddau peth gorau – yn flodeuo mewn stiwdios. Pan bod angen mynd tu allan a diffinio popeth yw pryd y maent yn aml yn diflannu.”
Gweithio bron yn gyfan gwbl fel artist perfformio a rhyngddisgyblaethol o 1976-2013 enillodd Stitt enw da yn rhyngwladol fel artist perfformio ar gyfer gwaith blaengar, pryfoclyd a heriol yn wleidyddol. Thema amlycaf yn ei allbwn artistig oedd cymunedau ac eu diddymiad yn aml yn ymwneud â thrawma a gwrthdaro â chelf fel cynnig achubol. Yn ystod y cyfnod hwn cynhyrchwyd cannoedd o berfformiadau a gweithiau gosod ‘fyw’ yn amgueddfeydd, orielau a safleodd benodol mawr ledled y byd.
Yn 2008 dyfarnwyd iddo Wobr Cymru Greadigol Cyngor y Celfyddydau i ddatblygu ei ymarfer peintio ac ers hynny mae wedi newid ei ymarfer celf i beintio. Yn 2015 dyfarnwyd iddo Wobr Cymru Greadigol Cyngor y Celfyddydau mawr arall i ymchwilio ymhellach i beintio mewn perthynas â chelf gosod.
Mae’n Athro Perfformio a Chelf Rhyngddisgyblaethol yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ac roedd yn gyfarwyddwr o trace: Installaction Artspace yng Nghaerdydd rhwng 2000 a 2010.
https://en.wikipedia.org/wiki/Andre_Stitt
Mae’r digwyddiad yma wedi’i arwain gan oriel elysium ac Arddangosfa Peintio Eilflwydd Beep wedi ei wneud yn bosibl trwy gyllid gan @celfcymruarts ac @nationallotterygoodcauses, yn helpu i gefnogi artistiaid a sefydliadau celf ar lawr gwlad yn ystod y pandemig COVID-19.