Sgwrs Artist: Paula MacArthur

Mae oriel elysium yn parhau gyda’i gyfres o sgyrsiau arbennig ar-lein ac yn eich gwahodd i ddigwyddiad penodedig Zoom yn arwain i fyny at Arddangosfa Peintio Eilflwydd Beep eleni.

Sgwrs Artist: Paula MacArthur

Amser: Medi’r 23ain, 7.30yh, amser DU

Ymunwch â’r cyfarfod Zoom:

https://us02web.zoom.us/j/84885018986?pwd=R1dqQXBKRFZJNEtLeUowZXZWbExYQT09

ID’r Cyfarfod: 848 8501 8986

Côd: 813805

Bydd Artist a Churadur Paula MacArthur yn trafod ei ymarfer peintio a’i harddangosfa guradurol ar y gweill, ‘Vitalistic Fantasies‘ (Ffantasïau Bywydolaidd) fydd yn rhan o’r Arddangosfa Peintio Eilflwydd Beep ym mis Hydref.

Mae peintiadau diweddar Paula yn archwilio’r geometreg a’r amherffeithrwydd ymddangosiadol mewn ffurfiau naturiol a oedd mewn gweithiau cynharach wedi’u mireinio gan y llaw dynol. Fodd bynnag, mae’r ffurfiau naturiol hyn yn ymddangos yn estron ac yn anghyfarwydd ac yn gwahodd cwestiynau ynghylch y datgysylltiad cynyddol rhwng dyn a natur.

Daw teitl yr arddangosfa Vitalistic Fantasies (Ffantasïau Bywydolaidd) o gyflwyniad llyfr 2018 Isabelle Graw, The Love of Painting lle mae’n dadlau bod bywiogrwydd peintiadau yn cael ei greu nid yn unig trwy’r ffyrdd penodol y mae peintwyr yn personoli eu peintiadau gan olion gweithgaredd ar y gwaith canlyniadol, ond hefyd trwy dafluniadau’r gwyliwr ar y peintiad.

Daw aelodau o Beintio Cyfoes Prydain ynghyd yn Oriel Stryd y Coleg yn Abertawe fel rhan o’r Arddangosfa Peintio Eilflwydd Beep mewn ymgais i ddod â sgwrs weledol i syniadau Graw ac ystyried sut mae ei dadl yn atseinio yn eu harferion unigol eu hunain.

Gallwch weld gwaith Paula yn arddangosfa Gwobr Peintio Beep yn oriel elysium, Abertawe, Hydref y 3ydd – Tachwedd y 7fed, a Vitalistic Fantasies (Ffantasïau Bywydolaidd) yn Oriel Stryd y Coleg yn rhedeg o’r 3ydd – 31ain o Hydref.

Mae’r digwyddiad yma wedi’i arwain gan oriel elysium ac Arddangosfa Peintio Eilflwydd Beep wedi ei wneud yn bosibl trwy gyllid gan @celfcymruarts ac @nationallotterygoodcauses, yn helpu i gefnogi artistiaid a sefydliadau celf ar lawr gwlad yn ystod y pandemig COVID-19.

www.beeppainting.com

www.elysiumgallery.com

www.paula-macarthur.com

www.contemporarybritishpainting.com