Marega Palser
Artist in residence: Framing the Transient NoW
23 August – 4th October 2018
Exhibition: Preview Friday 5th October
Exhibition continues until Saturday 20th October
Gall Mapio Dwfn cael ei ddisgrifio fel darluniad manwl, amlgyfrwng o le a phopeth sy’n bodoli o’u mewn.
Y mae’n broses a chynnyrch, gofod creadigol sydd yn weledol, yn agored, aml-haenog ac yn newid yn barhaol. Lle mae mapiau traddodiadol yn gweithio fel datganiad, mae mapiau dwfn yn gweithio fel sgyrsiau.
“Yn Fframiad o’r Byrhoedlog NawR/ Framing the Transient NoW”, mae cerdded ac arlunio yn chwarae rhan fawr o’r broses. Gwelaf cerdded fel alluogwr, yn y modd o dynnu sylw tuag at y meicro a’r pethau rydym yn edrych heibio. Y mae’n ffordd o dalu sylw, i edrych a chwrdd a’r pobl sy’n pasio trwy le; y gwrthrychau sydd yn trawio yn erbyn eu gilydd; y gofodau rhwng lleoedd.
Gellid ei weld fel ffordd seico-ddaearyddol o greu gwaith, gan ei fod yn gwmpasu’r cymdeithasol, hanesyddol, daearyddol, a chelf.”
Artist perfformiad yw Marega, sy’n byw yng Nghasnewydd. Wedi’i hyfforddi’n wreiddiol yn Ysgol Dawns Cyfoes Llundain, ac yn hwyrach astudio Celfyddyd Gain yng Ngerddi Howard (UWIC) yng Nghaerdydd, mae hi wedi gweithio a chwarae’n solet yn yr ardal llwyd sy’n gorwedd rhwng disgyblaethau ers ganol yr wythdegau. Mae cydweithredu gydag artistiaid eraill, cerddorwyr a gwneuthywyr theatr wedi bwydo i mewn i a siapio’r dulliau o waith a chrewyd hyd yn hyn.
Mae’r cwmnîau a chydweithredwyr yn cynnwys: Moving Being, Paradox Shuffle (a helpwyd ffurfio), Theatr Volcano, Paul Burrell a Bow Gamalan, Tetsuro Fukuhara, Red Earth, Sean Tuan John, Kim Fielding (Tactile BosCH) HiJinX a Lea Anderson o’r Cholmondeleys, i enwi ond ychydig.
Mae hi wedi bod yn rhan o fandiau Punk ers y nawdegau cynnar – The Terrorist Ballet Dancers from Hell; Ebola Cafe; Naughty; ac yn fwy diweddar, The Shelley Duvalls.
Yn 2009, derbyniodd Wobr Creadigol Cymru i archwilio ffyrdd o gysylltu arlunio â pherfformiad a dawnslunio. Allan o hyn fe chrewyd “Weithiau Edrychwn”; cynhyrchiad dawns celf byw wnaeth teithio orielau, theatrau, a gofodau siopau gwag, ynghŷd a gwahoddiad i gynnal Theatr Arlunio Llundain.
Caiff Marega ei hadnabod hefyd fel Mrs Clark, o Mr&Mrs Clark.Mae’r Clarks wedi bod yn creu gwahanol fathau o waith berfformiad ers 2002, a chafodd eu cynhyrchiad o “Smash It Up” ei fyr-rhestri am wobr Amnesty ‘Freedom of Expression’ yng Ngŵyl Caeredin yn 2015.
Mae hi’n sefydlydd wreiddiol o’r gymundod Awyrle Rhyngwladol Casnewydd/ Newport International Airspace, wedi’i sefydlu i arddangos a darparu llwyfan am y gelfyddyd yng Nghasnewydd.