Rhagolwg Dydd Gwener Ebrill 12fed, 7yh
Sgwrs Artist Dydd Sadwrn 13eg o Ebrill, 3yp
Arddangosfa’n parhau tan Dydd Sadwrn Mai 11eg
Oriel ar agor D. Mawrth – Sad, 12-8yh
Bore da, Hanner Nos!
‘Dwi’n dod adre,
Ma’r Dydd ‘di blino ‘da fi –
Sut allaf ohono fe?
Roedd heulwen yn lle melys,
Hoffwn aros –
Ond nad oedd Bore f’isho – nawr –
Felly nos da, Dydd!
Mae teitl yr arddangosfa yma’n ddyfyniad o fardd gan Emily Dickinson ac wedi’i ysbrydoli gan nofel Jean Rhys o’r un enw. Mae’r nofel am fenyw Saesneg canol-oed sy’n dychwelyd i Baris ar ôl absenoldeb hir. Mae hi’n yfed, yn obsesu dros ei ymddangosiad, ac yn drifftio trwy’r ddinas y mae hi’n caru yn teimlo’n unig, yn fregus, ac yn isel.
“Mae fy mheintiadau am brofiadau menywod – mae’r rhan fwyaf o’m mheintiadau yn dangos menywod. Y pethau sy’n ymddiddori fi’r mwyaf yw’r meddyliau cudd a’r seicoleg o’r sefyllfa. Rydw i’n defnyddio patrymau a golau i drawsnewid gwrthrychau cyffredin, cyffyrddadwy i mewn i offerennau a sgribladau hyblyg. Weithiau, mae’r patrymau a siapau deinameg yma’n cymryd canol llwyfan, yn gadael arwr llonydd, unig sy’n ymddangos yn ddiflas, yn garcharor neu ar goll. Mae golau a lliw a pha paint sydd orau yn fy nghyffroi, ac rydw i’n caru sut mae’r chwarëusrwydd o hwn yn gallu, yn baradocsaidd, adio math o brudd-der i’r peth y mae’n portreadu. Weithiau, gwnaf wynebu’r gwylwyr gydag ymddygiadau enigmateg (mae wastad rhywbeth preifat ac anghyraeddadwy am y pynciau); ac ar adegau arall defnyddiaf defodau, symbolau ac arwyddion i darfu ar y darlleniad o’r delwedd. Dydy o ddim yn effaith radicalaidd; mwy o ogwydd tyner. Weithiau yr ystum bychain yw’r un sy’n teimlo’r mwyaf arwyddocaol.”
Graddiodd Ruth Murray (g. 1984, Birmingham, DU) o Goleg Brenhinol Celf yn 2008, lle derbyniodd Ysgoloriaeth Stanley Smith i astudio, a’r Wobr Sheldon Bergh am ei arddangosfa terfynol. Yn ei blwyddyn graddio, fe dderbyniodd y Wobr De Laszlo am Bortreadu a’r Wobr Ffiguraidd o Oriel Boundary. Yn dilyn hwn yr oedd hi’n Ysgolor Derek Hill yn Ysgol Prydeinig yn Rhufain ac artist preswyl yn Glogauair (Berlin), Pro Artibus (Y Ffindir), Kaus Australis (Rotterdam) ac USF (Bergen). Y flwyddyn yna cafodd arddangosfa unigol ‘Kerfuffle’, yn Oriel Celf y North Wall, Rhydychen, ei dewis am y Wobr Celf Ffiguraidd Threadneedle, a’i gwobrwyo gyda’r Wobr Surgeon tra’n arddangos yn arddangosfa blynyddol yr RBA. Mae arddangosfeydd nodweddol arall yn cynnwys Wobr y Bobl yn Beep 2014, Northern Stars yn yr A Foundation, 4 New Sensations gan Saatchi, Casgliad y Creative Cities, Wobr Peintio Beep 2018, a’r Wobr Portread BP.