Hygyrchedd ac Ymgysylltu
Cyflwyniad
Am ddeng mlynedd mae aelodau Oriel Elysium Gallery wedi darparu gweithgareddau hygyrch mewn lleoliadau ac mewn digwyddiadau awyr agored i ystod mor eang o’r cyhoedd â phosibl. Mae Oriel Elysium Gallery yn ymroddedig i ddarparu amgylchedd cynhwysol yn ei oriel Stryd y Coleg a’i mannau stiwdio. Ein nod yw darparu gwasanaeth y gellir ei ddefnyddio gan bawb, waeth beth fo’u hoed, rhyw neu anabledd. Mae hyn yn cynnwys nifer o elfennau megis agweddau’r cymdeithas a’r unigolyn, dyluniad cynhyrchion a chyfathrebu, hyfforddiant o staff yr oriel a dyluniad yr amgylchedd adeiledig ei hun.
Mae Oriel Elysium Gallery yn cydnabod y gwahaniaethau yn y ffordd y mae pobl yn defnyddio’r amgylchedd adeiledig a’r nod yw darparu atebion o fewn ei modd sy’n galluogi pob un ohonom i gymryd rhan mewn gweithgareddau prif ffrwd yn gyfartal, yn annibynnol, gyda dewis a chydag urddas.
Fel gyda’r rhan fwyaf o fentrau a datblygiadau newydd mae anghenion pobl anabl yn aml yn cael eu hystyried ar wahân i ddyluniad gwreiddiol yr adeilad. Mae hyn yn anochel yn arwain at gyfleusterau ar wahân a datrysiadau yn cael eu gweithredu i adeilad a oedd eisoes yn anaddas i bobl anabl ei ddefnyddio, er enghraifft lifftiau platfform neu rampiau ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a thoiledau ar gyfer pobl sy’n ei chael yn anodd dringo grisiau. Yn ôl ffigurau llywodraeth (2014) mae gan tua 11,700,000 o bobl anabledd a bydd darparu amgylchedd cynhwysol yn cael effaith gadarnhaol ar tua 20% o’r boblogaeth oedolion. Mae’r ganran hon yn cynyddu (40%) dros y degawdau nesaf wrth i bobl yn y boblogaeth oedrannus byw’n hirach tra bod y boblogaeth gyfan yn gyffredinol yn cynyddu dim ond 7%. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd sefydliadau fel Oriel Elysium Gallery yn darparu amgylcheddau cynhwysol.
Mae’r adeilad ar Stryd y Coleg yn enghraifft berffaith o adeilad sy’n anodd ar gyfer defnydd anabl a’r rhwystrau a wynebir gan sefydliad megis Oriel Elysium Gallery i greu amgylchedd cynhwysol mewn lle o’r fath. Sefydliad di-elw yw Oriel Elysium Gallery gydag amcanion elusennol, a dibynnir ar wirfoddolwyr a chyllid i fodoli.
Yr hyn yr ydym wedi’i wneud
- Gosod troediadau gwelededd uchel ar bob staer a grisiau
- Gosod rheiliau llaw ar y ddwy ochr o bob rhes o risiau
- Sicrhau bod pob coridor, stiwdio, allanfeydd a gofod oriel wedi’u goleuo’n dda
- Darparu cadair godi trwy ôl-fynedfa a chyfleusterau ty bach ar gyfer pobl llai abl
- Sicrhau bod staff yr oriel wedi eu hyfforddi ym mhob agwedd o iechyd a diogelwch, gweithdrefnau mewn achos o dân a chynorthwyo pobl anabl
- Darparu cadair olwyn sbâr a rampiau cadair olwyn ar gyfer grisiau bach
Ychwanegol
Mae Oriel Elysium Gallery yn deall pwysigrwydd gallu sefydliad i ddarparu mynediad llawn am bob math o anabledd. Mae un faen tramgwydd wedi bod yn y gost o lifft cadair olwyn ôl-fynedfa (tua £21,000) sydd y tu hwnt i gyllideb y sefydliad a byddai’n rhoi diwedd ar y prosiect os gorfodynt i osod un ar unwaith; hefyd, cafodd lifft llawn ei ddiystyru oherwydd cyfyngiadau’r adeilad. Fel dewis arall, mae Oriel Elysium Gallery wedi darparu lifft grisiau a phersonau sydd wedi’u hyfforddi i gynorthwyo pobl ar ac oddi ar y lifft. Mae holl ddeunyddiau cyhoeddusrwydd Elysium yn amlinellu’r cyfleusterau mynediad ac mae’r ddwy fynedfa wedi’u ffitio gydag allanfa a mynediad hawdd â ffitiadau gwthio’r bar gyda system gloch intercom.
Os ydych yn cael anhawster gyda’ch mynediad i Oriel Elysium Gallery, cysylltwch â ni naill ai drwy e-bost neu ffoniwch 07980925449 ymlaen llaw i drefnu cymorth a mynediad i’n lifft grisiau ôl-fynedfa, neu ffoniwch swnyn drws y mynedfa flaen ar ben y grisiau.
Yn anffodus ni allwn ar hyn o bryd gynorthwyo pobl sydd yn methu defnyddio’r lifft grisiau am eu bod yn defnyddio cadeiriau olwyn yn barhaol.
Amcanion ymgysylltu yn y dyfodol (i fod yn ei le erbyn 2017)
Mae Oriel Elysium Gallery yn cysylltu â Chelfyddydau Anabledd Cymru i gynorthwyo gyda gwella hygyrchedd ac ymgysylltu ag arddangosfeydd presennol.
Pwyntiau allweddol rydym yn edrych ar ar hyn o bryd yw:
Gwefan: Ychwanegu gwybodaeth ar fannau parcio i’r anabl gerllaw ac ychwanegu sut i gyrraedd y lleoliad/ cyfarwyddiadau
Nam ar y golwg: Arwyddion cliriach o gwmpas yr adeilad
Pan fydd e-wybodaeth yn cael ei hanfon allan, gwneud yn siŵr mae dewis o e-bost neu gopi caled
Darparu copïau print bras
Marchnata: Taflenni a llyfrynnau hawdd i’w darllen (Ffont mawr – hy Arial 14 i 16)
Sicrhau bod taflenni yn rhoi unrhyw fanylion am hygyrchedd
Ffilmiau gwybodaeth yn yr oriel neu ar-lein gydag is-deitlau neu drawsgrifiadau print bras
Teithiau o’r gofod oriel ar gyfer ymwelwyr nam ar eu golwg:
Cynnig disgrifiad clywedol – taith gyda disgrifiadau o beintiadau / gwaith celf naill ai’n bersonol gan staff yr oriel neu ddefnyddio app neu lawrlwytho a’u marchnata i’r gymunedau perthnasol.
Arwyddion print bras ar waliau ar bwys y gwaith celf
Ffilmiau / cyfweliadau ag artistiaid a churaduron wrth law i ymwelwyr â nam ar eu golwg
Hyfforddiant Staff: Ymwybyddiaeth o gyfathrebu
Hyder y staff am gyfathrebu â phobl anabl, er enghraifft:
Pobl fyddar/ trwm eu clyw – siarad yn glir, dim byd yn cwmpasu’r gwyneb, nid yn wynebu i ffwrdd tra’n siarad.
Mewn digwyddiadau cyhoeddus, gwneud lle ar gyfer pobl â nam ar eu symudedd a chael seddi yn y tu blaen ar gyfer pobl fyddar a phobl â nam ar eu golwg.
Sgyrsiau ar gyfer pobl fyddar neu drwm eu clyw: Cynllun tymor hir
I ddarparu dehongliad iaith arwyddion ar gyfer defnyddwyr iaith arwyddion a/ neu palandeipydd (llafar i destun/ penawdau) ar gyfer pobl fyddar neu drwm eu clyw nad ydynt yn defnyddio iaith arwyddion; mae angen i hyn gael ei ddefnyddio ar y cyd â hysbysebu’r digwyddiad hygyrch i’r gymuned fyddar a phobl fyddar eraill.