Jessica Hoad – Rendered

Rhagolwg: Dydd Gwener Tachwedd 24ain 7yh 

Ma’er arddangosfa yn parhau tan Dydd Sadwrn 16eg Rhagfyr 

Sgwrs Arlunydd: Dydd Sadwrn 2il Rhagfyr 11am 

Arddangosfa o waith newydd gan yr artist o Abertawe, Jessica Hoad. 

Trwy ymarfer cerfluniol amrywiol mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ein ymateb reddfol i sefyllfaoedd, gwrthrychau, synau a mannau. 

Yn ei arddangosfa unigol gyntaf mae’r gwaith hwn yn dwyn ynghyd darnau o ddeunydd penodol iawn i archwilio trafod telerau o ffin rhwng gofodau sy’n cyd-fyw, go iawn neu wedi’u dychmygu.  

Mae’r prosiect parhaus hwn yn archwilio syniadau o fregusrwydd a gwydnwch trwy arbrofi gyda deunyddiau a phrosesau. Yn cyfeirio at lliw a ffurf, mae’r gwaith yn ceisio gwneud synnwyr o freuddwyd haniaethol, ddibaid, yn ymchwilio groesfannau o ymwybyddiaeth ac amser. 

Caiff y gwaith eu weld trwy gydol yr arddangosfa o’r ymylon. Yn trio gwneud synnwyr o bytiau o sŵn neu gwrthrychau aneglur. Sain gwan o ddieithriaid yn gweiddi at eu gilydd ac eitemau a gasgwlyd o brofiadau de-javu. 

Fe’ch gwahoddwyd i gamu i mewn i’r gwaith yn llythrennol gydag arddangosfa o focsys argraff ewyn, a phrofi atgasedd yr artist i liw a gweadedd penodol o ddarnau o hufen iâ’r gofod mewn print digidol wedi’i helaethu. 

Cychwynnwyd y syniadau ar gyfer y gwaith hwn yn ystod cyfnod ymchwil a datblygiad yn ystod lleoliad preswyl gydag Oriel Celf Glynn Vivian.  

Astudiodd Jessica Hoad Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Oxford Brookes, ac MA yn PCYDDS.
Yn ddiweddar, arddangosodd yn OVADA fel rhan o Photo Oxford.