Brain Duon Borth Gan – Mira Andres

O cyn y cyfnod fordwyol tan ganol yr 20fed ganrif, roedd Borth, pentref arfordirol yng nghanolbarth Cymru, yn gymuned ynysig yn byw’n bennaf o gynaeafu penwaig a chocos. Mae Borth wedi ei adeiladu ar draethell agored, ar un ochr Môr Iwerddon gyda’i coedwig foddedig ac ar yr ochr arall gan y corstiroedd o Gors Fochno.

Y menywod o Borth a gerddodd llwybr y clogwyn i Rhiw Fawr, drwy Clarach a dros y bryn i Aberystwyth i werthu eu dal. Daeth y menywod Borth yn adnabyddus fel Y Brain Duon, a enwyd gan y werin o Aberystwyth a’r cymunedau cyfagos. Roedd hyn oherwydd eu grwpio agos, eu cymeriadau ewn, annibynnol a’u dillad du yn chwifio tra’n dod lawr o’r bryniau tuag at y dref farchnad.

Ar ‘Graig yr Wylfa’ – llecyn manteisiol uchaf Borth – bu’r menywod yn aml yn arolygu’r môr agored eang yn y gobaith y byddai eu dynion yn dychwelyd. Fe aeth bron pob un o’r dynion i’r môr er mwyn maethu eu teuluoedd ac eto cafodd nifer fawr eu difa gan y môr. Cafodd llawer o wragedd eu gwneud yn weddw – ffaith a ddaeth a’r menywod yn agosach at eu gilydd a’u gorfodu nhw i addasu i ffordd mwy hunangynhaliol o fyw, o ble mae’r ysbryd matriarchaidd cryf dal yn amlwg heddiw.

Mae Borth wedi newid o bentref forwrol i fecca ar gyfer menywod artistig, hunangynhaliol sy’n rhannu egwyddorion ecolegol ac ysbrydol tu fewn i’r gymuned glos. Mae ymreolaeth cymunedol Borth ac hefyd y bond cryf rhwng y cenedlaethau hen ac ifanc, sydd yn ehangu drwy gydol y cylch teulu, yn cyfuno a chynrychioli Zeitgeist eangfrydig, yn adlewyrchu eu rhyddid artistig ac ysbrydol. Mae llawer o fenywod Borth yn mynegi eu hunain trwy gelf, yn delweddu eu perthynas agos â’r môr a’r tirwedd o gwmpas Borth. Yn amrywio o ailgylchu broc môr i baentiadau, cerfluniau a cherddoriaeth, mae’r Brain Duon gyfoes yn dosbarthu eu celf o’r môr fel y gwnaeth eu rhagflaenwyr grymus. Maent wedi penderfynu sefydlu ffordd o fyw o fewn y pentref arfordirol ffyrnig a llwm, lleoliad sydd wastad dan berygl gan lifogydd a stormydd. Gyda’r lefel y môr ar y cynnydd mae dyfodol Borth yn ansicr.

Brain Duon Borth yw gyfansoddiad ffotograffig, gyda’i gwreiddiau o fewn cyd-destun forwrol. Mae’n archwilio’r tirwedd cyfredol ac yn gyfochri’r gorffennol a’r presennol i bortreadu cenhedlaeth newydd o fenywod cryf yn yr ysbryd o’r cymdeithas fatriarchaidd o ganrifoedd yn ôl. Mae’r Brain Duon gyfoes yn dibynnu ar y môr cymaint ag y maint yn dibynnu ar eu gilydd ac mae eu mynegiant artistig yn ogystal â’u cydlyniant cymdeithasol o  flaenoriaeth naturiol.