Celf yn y Bar – Jason & Becky

Celf yn y Bar – Jason & Becky

Rhagolwg: Dydd Gwener Hydref 4ydd 7yh

Arddangosfa’n parhau tan Hydref 4ydd

Ar agor D Maw & Merch 12 – 7yh, Iau 12-11yh, Gwe & Sad 12yp – 1yb

Gan ymchwilio i’r cyflwr economaidd-gymdeithasol a chymdeithasol-wleidyddol, mae Jason & Becky yn gweithio ar y cyd i fynd i’r afael â nifer o gwestiynau ynghylch ein cyflwr dynol a chymdeithasol cyfredol. Trwy eu hymarfer, ymyriadau ac arbrofion, maent yn herio canfyddiadau ac yn anelu at ennyn diddordeb cyfranogwyr, cymylu ffiniau a gwthio terfynau trwy ryngweithio.

Mae Jason & Becky yn artistiaid cydweithredol sy’n byw ac yn gweithio yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae gweithiau diweddar yn cynnwys perfformio yn rhaglen Lates  Theatr Genedlaethol Cymru gyda tactileBOSCH, a gosodiad ar gyfer y Prosiect What Makes a Home lle buont yn cydweithio â phreswylydd Tai Arfordirol Gary Crosby i gynhyrchu darn a fydd hefyd yn cael ei ddangos yn Theatr Volcano o fis Medi. Yn 2016, cynhaliodd Jason & Becky breswyliad mis o hyd mewn lloches i’r digartref yn Fenis fel rhan o brosiect CIVIC Oriel Mission ac yn hwyrach wedi arddangos yn Tsieina (gyda PCYDDS), Japan (gyda tactileBOSCH) a Colorado (gydag oriel elysium).

Ers 2016, mae Jason & Becky wedi bod yn ymgymryd â dau PhD yn seiliedig ar ymarfer mewn partneriaeth ag Oriel Mission a Grwp Tai Arfordirol, gan ymchwilio i ymgysylltiad â rhaglennu orielau a’r amharodrwydd i adrodd ar fethiant mewn prosiectau celf sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol. Yn 2019 fe wnaethant sefydlu prosiect peilot Rhwydwaith Lles Artist, a ariannwyd gan NAWR, fel cyflenwad wedi’i seilio ar ymarferwyr i’r mudiad ‘celfyddydau ac iechyd’. Bydd y Rhwydwaith yn archwilio pwysigrwydd a diogelwch lles pob artist – nid dim ond y rhai sy’n gweithio yng nghyd-destun y celfyddydau ac iechyd.

www.jasonandbecky.co.uk