Dave Long – Idle

Mae’r gwaith a gyflwynir yn gyfres o ddarnau haniaethol a ffigurol, darlun cyffredinol o ieuenctid a segurdod yn ystod diwedd yr haf mewn tiroedd dan feddiant. Mae’r delweddau hyn yn tynnu naratif rhydd at ei gilydd, â darluniau haniaethol, crwn, yn eu plith. Mae’r naratif, fel llawer o straeon a adroddir trwy tawch gwres yr haf, yn amwys a heb agoriad na chasgliad amlwg. Gall y gwyliwr ddatgelu cipolwg yma neu acw; merch ifanc ar drothwy darganfod, mae ffigwr gwrywaidd yn gorwedd yn y glaswellt hir. Mae tanc yn segura yn nhywyniad haul yr haf. Trwy’r amser, cyflwynir ailadroddiad o ddelweddau crwn cymhleth i’r gwyliwr; pocedi ynysig o gythrwfl a llonyddwch. Mae’r bydoedd hyn yn hylif ac yn ddi-dor, yn cydfodoli ac yn gorgyffwrdd â’i gilydd, byth byth yn ymdoddi gyda’i gilydd neu’n dod yn gyfanwaith. O’r fan hon, gall y gwyliwr gamu allan a bwrw golwg ar stori mewn lle sydd ychydig yn swrrealaidd, ond nid llawer yn wahanol i’n byd ein hunain. Darlunydd a Murluniwr yw David Long wedi’i leoli yn Abertawe, gyda llenyddiaeth, ffilm, cerddoriaeth a diwylliant pop yn dylanwadu ar ei waith. Mae David yn archwilio delweddaeth ffigurol gydag elfennau haniaethol, yn bwysleisio mynegiadau o symud deinamig a chymhwyso pwysau a dwysedd i’r gwaith. Mae gan Dave stiwdio yn Stiwdios Artistiaid Oriel Elysium, Stryd y Berllan, Abertawe.