Mae oriel elysium yn rhedeg nifer o gyfleoedd preswyl trwy gydol y flwyddyn.
Mae’r Lle Prosiect, wedi’i leoli yn eu stiwdios ar Stryd y Berllan, ar agor am gyflwyniadau trwy’r flwyddyn. Rydym yn croesawi artistiaid sydd eisiau gweithio mewn gofod dros dro i ffwrdd o’u amgylchedd arferol i adlewyrchu a chreu.
Defnyddir y lle prosiect yn fisol gan artistiaid dethol. Y nod yw galluogi artistiaid i weithio ac arbrofi tuag at greu gwaith newydd mewn amgylchedd y tu allan i’w ymarfer stiwdio arferol fel paratoad ar gyfer trafodaethau beirniadol o fewn grŵp y stiwdios. Mae’r gofod
yn galluogi artistiaid i ddatblygu, i adeiladu, i gymryd risgiau, i brofi ac i wahodd cymheiriaid i weld y gwaith ar y gweill.
Mae’r lle prosiect yn rhydd i ddefnyddio. Nid yw oriel elysium yn cynnig unrhyw gyllideb ar gyfer ffi neu ddeunyddiau. Ebostiwch info@elysiumgallery.com gyda datganiad byr
o fwriad, bywgraffiad byr, dolen i’ch gwefan.
Rydym hefyd yn rhedeg cyfres o raglenni Artist Preswyl ar gyfer artistiaid sydd
yn arwain at arddangosfa gydag oriel elysium. Mae cyflwyniadau ar gau ar hyn o bryd, ond gallwch chi gofrestru am ein cylchlythyr am newyddion pellach.