Lee Williams – CARGO

Lee Williams: Cargo

Rhagolwg: Dydd Gwener 18ed o Fehefin 7yp

Arddangosfa’n parhau tan 16eg o Orffennaf

Ar agor Dydd Mercher – Dydd Sadwrn 12-5yp

Mynediad am Ddim

Sgwrs Artist, Dydd Sadwrn 16eg o Orffennaf 2yp

Mae’r prosiect hwn wedi ei leoli o fewn y drafodaeth sy’n cylchdroi o gwmpas celf, diwydiant ac ecoleg, gan ganolbwyntio’n benodol ar y berthynas rhwng diwydiant a’r ardal arfordirol o Aberafan, Port Talbot. Prif dre cynhyrchu dur yw Port Talbot, gydag un o’r borthladdoedd dyfnaf yn y byd, ond ganddo hefyd cymuned sydd yn ddibynnol iawn ar y diwydiant dur.

Mae CARGO hefyd yn ymwneud â’r berthynas gyda diwydiannu ac ecoleg, gan ystyried yr ardal arfordirol fel maes ar gyfer trafodaeth. Ardal lygredig iawn yw Port Talbot, gyda lefelau aer fesuredig o fater gronynnol PM10 yn y dref, yn cyrraedd mor uchel â 9 ar raddfa llygredd aer y llywodraeth, ac mae ganddo hefyd rai o’r lefelau asidedd y môr uchaf yng Nghymru. Mae hwn yn fersiwn leol o faterion mwy eang.

Mae ymchwil ddiweddar wedi archwilio ymlyniad â lle a’r bondio o bobl i leoedd, yn cysylltu  ymlyniad i adeiladau megis hunaniaeth lle, teimlad o le a ddibyniaeth lle. Mae ein perthynas i’n hamgylchedd yn gymhleth, rydym yn anhunan-ymwybodol ac yn hunan-ymwybodol yn derbyn ac yn cydnabod lle fel rhan annatod o’n hunaniaeth bersonol a chymunedol a hunan-werth. Mae lleoedd a rhyngweithio dynol yn brosesau dwyochrog yn yr ystyr bod, trwy ryngweithio lle, pobl yn cysylltu’n weithredol gyda lle. Mae pobl yn dod i deimlo’n rhan o le ac yn cysylltu hunaniaeth bersonol a grŵp gyda hunaniaeth y lle hwnnw.

Mae Lee wedi bod yn artist gweledol, curadur a darlithydd ers dros 25 mlynedd ac mae wedi arddangos yn eang yn y DU a thramor. Astudiodd yn Sefydliad De Morgannwg o Addusg Uwch, Sefydliad Celf a Dylunio Birmingham, Prifysgol Goldsmiths a Phrifysgol Cymru, Casnewydd. Yn 2014, fe oedd y prif ennillydd yng Ngwobr Paentio Rhyngwladol Beep Wales/ Cymru. Ar hyn o bryd, fe yw arweinydd y cwrs am ddiploma sylfaen yng Ngrŵp Coleg Castell-Nedd Port Talbot, ac mae’n gyfarwyddwr o Colony Projects, sefydliad a arweinir gan artistiaid o Dde Cymru.

Mae gan Lee arddangosfa unigol yn Oriel ARCADECARDIFF yn ddiweddarach eleni.