O Yma ac Yna
Lluniadau o Abertawe, DU, i Colorado, UDA
Mae’r cysylltiad rhwng Colorado ac Abertawe yn mynd yn ôl i’r haf 2010, pan wahoddodd Mary-Ann Kokoska Proffeswr Deanna Petherbridge a minnau i ddewis gwaith o bob rhan o’r Unol Daleithiau America ar gyfer yr arddangosfa Arlunio yn y Maes Ehangu, a gynhelir yn hwyrach y flwyddyn honno yn Oriel Clara Hatton, Prifysgol Talaith Colorado, un o’r lleoliadau ar gyfer y gyfres hon o sioeau. Ers hynny, mae Oriel Elysium wedi cynnal sioe o luniadau Kokoska ym mis Tachwedd 2011, pan roedd hi yn Abertawe fel prif siaradwr yn y Symposiwm Arlunio yn y Gyfadran Celf a Dylunio, ac yn ddiweddarach, ym Mehefin 2014, hwylusodd Elysium y cyntaf yn y gyfres o gyfnewidion O Yma ac Yna (From Here and There), yn cynnal arddangosfa o luniadau wedi eu dewis yng Ngholorado, ynghyd â phanel trafodaeth a fynychwyd gan Mary-Ann ac artistiaid o Golorado ac Abertawe. Nawr rydym yn dechrau ar y sioeau nesaf – luniadau wedi eu dewis yn Abertawe gan yr artist a chyfarwyddwr Elysium, Jonathan Powell, ar gyfer yr arddangosfa Colorado yn Oriel Clara Hatton, Medi / Hydref 2014 ac yn ôl i Oriel Elysium ym mis Tachwedd / Rhagfyr 2014. Mae’r nifer enfawr o waith a chyflwynwyd i’r oriel ar gyfer y sioe yn dyst i werth canfyddedig cyfnewid diwylliannol o’r fath hon.
Cyfnewid diwylliannol – a ydym wir mor wahanol? A all unrhyw wahaniaethau diwylliannol cael eu dirnadu yn y dyluniadau o Abertawe a Cholorado? Ceir sefyllfa sy’n dadlau y gall agweddau ar system gred pob diwylliant cael eu dirnadu yn y ffyrdd y mae aelodau o’r diwylliant yn gynrychioli eu profiadau trwy ddarlunio. Fel enghraifft o hyn, yn ddiweddar yr wyf i a myfyrwr PhD Amanda Roberts (Riley a Roberts 2014) wedi cymharu darluniad gan Claude Lorrain gyda rendro o dirwedd gan ei gyfoes Tseiniaidd, Kuncan. O’r dewisiadau fformat (tirwedd Lorrain, portread Kuncan) a maint, o’r gwahaniaethau mewn systemau taflunio geometrig – persbectif un-bwynt Lorrain yn effeithiol yn sylfaeni’r gwyliwr; defnydd Kuncan o dafluniad arosgo fertigol yn effeithiol yn lleoli’r gwyliwr yn arnofio yn y gofod – i’r gwahaniaethau cynnil yn rhinweddau’r llinell – pen anhyblyg traws-deor ar gyfer Lorrain, hylifedd brwsh caligraffig ar gyfer Kuncan – daeth yn amlwg bod dealltwriaeth yr artistiaid o’u perthynas â’u hamgylchedd yn cael eu pennu’n ddiwylliannol, ac yn weladwy trwy eu dewisiadau a chyfuniadau o’r ystod o elfennau a chyfryngau gweledol o luniadu: yr Ewropead wedi ymgolli yn yr harddwch darluniadol; y Tseiniaidd yn yr aruchel.
Felly, trwy edrych yn fanwl ar y gwaith a ddewiswyd: a oes tystiolaeth o wahaniaethau diwylliannol yn y rhinweddau ffurfiol a dewiswyd gan bob artist? Hoffwn feddwl y gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd, o’r canfyddiadau gwahanol a rhennir, a negodwyd drwy’r fenter gydweithredol diweddaraf yma. Swyddogaeth gymdeithasol arall o arlunio!
Proffeswr Howard Riley PhD MA(RCA) FRSA
Cyfadran Celf a Ddylunio