Preswyliadau Peintio Beep 2018
Kena Brown | Lydia Courtier | Sophie Harding | Dylan Williams
4 Mehefin – 16 Awst
Dewiswyd pedair o fyfyrwyr ifanc yng Ngholeg Celf Abertawe i fod yn artistiaid preswyl y wobr peintio eilflwydd Beep eleni. Wedi’i ddewis gan yr Athro Catrin Webster a Chyfarwyddwr elysium/ Beep Jonathan Powell, bydd yr artistiaid yn cael cynnig amser stiwdio, cynghorwr ac arddangosfa werthfawr yn oriel elysium yr haf hwn.
Mae gwaith Kena Brown yn dadansoddi ffurfiau o emosiynau, gan greu cysyniad gweledol trwy awtomeiddio. Mae ei paentiadau yn dogfennu prosesau meddwl ac atgofion trwy wneud marciau greddfol a llinell. Mae lliw yn codi’n ddigymell o feddyliau, ac mae teitl yn cael ei sbarduno o atgofion. Mae’r paentiadau’n archwilio’r greddfau anweledig a sylfaenol o beth yw i fod yn artist.
Mae lluniau hunangofiannol Lydia Courtier yn cyfuno testun, haniaethu a lliw i ffurfio sgwrs barhaus am ei bywyd trwy baent. Mae’n ddathliad o’r dda a ddrwg mewn bywydg gyda phaentio’r un peth gyson trwy’r cyfan.
Mae portreadau ysgytwol Sophie Harding yn canolbwyntio ar y cyflwr dynol – seicoleg a gwrthdaro’r meddwl. Mae’r artist yn herio’r syniadau confensiynol o bortreadau trwy tywyllu hunaniaeth y pwnc yn hytrach na’i darlunio. Mae cydnabyddiaeth wyneb yn anodd wrth i’r artist yn archwilio syniadau o hunaniaeth, bregusrwydd ac absenoldeb.
Mae Dylan Williams yn dogfennu bywyd bob dydd trwy deithiau cerdded bob dydd ac arsylwi’n gyson ar ei amgylchfyd sy’n sbarduno ei beintiadau egnïol a bywiog. Wedi’i ysbrydoli gan dirweddau’r hen feistri, mae llinellau trwchus Williams yn adleisio artistiaid fel Leon Kossoff a John Virtue. Fel Virtue, mae Dylan Williams yn osgoi lliw fel rhywbeth sy’n tynnu sylw’n ddiangen.
Mae preswyliadau artistiaid yn cael eu cynnal yn stiwdios elysium ar Stryd y Berllan trwy gydol mis Mehefin a mis Gorffennaf, cyn parhau yn oriel elysium, yn gorffen yn eu harddangosfa fel rhan o wobr peintio eilflwydd Beep.
Bydd yr arddangosfa yn rhagolygu ar Ddydd Gwener Awst 17eg, 7yh ac yn rhedeg tan Ddydd Sadwrn Medi’r 1af.
Wedi’i lansio yn 2012, mae beep (arddangosfa beintio eilflwydd) yn wobr beintio rhyngwladol gyfoes, wedi’i leoli yn Abertawe, Cymru. Yn digwydd bob 2 flynedd, mae beep yn cefnogi ymarfer dychmygus a bywiog mewn peintio cyfoes. Mae Beep yn dychwelyd ym mis Awst 2018 gyda rhaglen ehangach o arddangosfeydd lloeren, preswylfeydd a thrafodaethau o gwmpas y brif sioe Beep ym mhartneriaeth ag orielau a sefydliadau addysgol Abertawe. Ewch i www.beeppainting.com am ragor o wybodaeth.