Kathryn Anne Trussler: Astro Turf Grazed Bovine
Rhagolwg: Dydd Gwener Mai 19eg 7yh
Arddangosfa yn parhau tan Ddydd Sadwrn Mehefin 17eg
Sgwrs Artist: Dydd Sadwrn Mehefin 3ydd, 3pm
Artist o Abertawe, Kathryn Anne Trussler, oedd artist preswyl orielysium/ Elysium Gallery o Fis Ionawr – Ebrill 2017. Yn ystod ei phreswyliad o bedwar mis, wedi’i lleoli yn stiwdios Elysium ar Stryd y Berllan, cwmpasodd ei hymchwil obsesiwn cynyddol diwylliannau gorllewinol gyda ffuglen ôl-apocalyptaidd ac ein ‘ffantasïau’ am ddiwedd y byd.
Mae’r greadigaethau yn y corff newydd o waith hwn yn adlewyrchu ein pryderon cynyddol a’n ffetis gyda phopeth apocalyptaidd. Mae syniadau o gymdeithasau hynafol, estron neu dyfodolaidd yn ffiwsio gyda deunyddiau an-ailgylchadwy a daflwyd, sydd yn doreithog yn ein hamgylchedd heddiw.
Mae’r artist yn mwynhau gweithio gydag eitemau sy’n ymgomydu â’r syniad o’r ‘bob dydd’, ac yn chwilota am sbwriel iwtilitariaidd, cyffredin, i adeiladu ffurfiau sydd yr un mor gyntefig ag y maent yn ddyfodolaidd.
Crewyd y gwaith gan ddefnyddio dehongliad miniatur o gyfuniad o dirwedd drefol a naturiol dychmygol, yn ffurfio math o ardd Zen ôl-apocalyptaidd. Yn y tir diffaith hwn, mae hyd yn oed y tyfiant o chwyn yng nghraciau ac ar cofadeiladau wedi’i syntheseiddio gyda’r lleoli gofalus o blanhigion artiffisial.
Mae’r cerfluniau yn fwriadol yn gyntefig, sy’n cael ei grynhoi gan y defnydd o wrthrychau o waith dyn sydd wedi’i sborioni o’r traeth a chanol y dinas. Mae’r cydosodiadau yn drwyth o wastraff brynwriaethol gorllewinol, ac estheteg dwyreiniol. Yn yr wrthdaro hwn o ddiwylliannau, mae ffyn bambŵ, polystyren, a chymhorthion gardd ‘poundland’ yn cael eu gorfodi at eu gilydd mewn undeb fel arall ni all ddigwydd.
Graddiodd Kathryn o Goleg Celf Abertawe, PCYDDS yn 2016, lle bu’n astudio celfyddyd gain ar raglen y meistr integredig (MArts). Cafodd ei gwahodd yn ddiweddar i arddangos gwaith ar gyfer y Women of Many Dimensions (arddangosfa Diwrnod Rhyngwladol y Merched), Abertawe, a’i dewis ar gyfer Wrecsam Agored, Undegun, Gogledd Cymru.