Hwyl fawr 2018 a helo 2019!

Helo 2019!

Rwy’n siŵr taw nage fi yw’r unig un sy’n dechrau teimlo bach yn flinedig ac yn drwm o galon yn yr amseroedd gwleidyddol drist ac annealladwy yma… gwella y ddylai yn 2019…ie?… wir??

Er gwaetha’r holl dranc, tristwch ac ansicrwydd, I oriel elysium o leiaf, mae 2018 wedi bod yn flwyddyn hael o arddangosfeydd, preswylfeydd, apeliadau ac orielau symudol. I ni, roedd y wobr Peintio Beep a Nawr yr Arwr/ Nawr am Fwy yn uchafbwyntiau sicr yng nghalendr diwylliant Abertawe dros y flwyddyn diwethaf, ac mae 2019 yn mynd i fod hyd yn oed yn well!

Yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror 2019, bydd artist o Abertawe, Hazel Cardew, yn artist preswyl yn oriel elysium, wedi’i ddilyn gan ei harddangosfa ‘O Linell ac Adeiledd/ Of Line & Structure’ a fydd yn agor dydd Gwener 8fed o Fawrth a pharhau tan 23ain o Fawrth.

Er mai hwn bydd ein harddangosfa cyntaf o’r flwyddyn, y bydd hefyd ein digwyddiad olaf oll yn 16 Stryd y Coleg, a fu’n gartref i ni ers 2013. Bydd yr oriel elysium newydd yn agor ar 210 Stryd Fawr ym mis Ebrill. Bydd ein cartref newydd yn cynnwys DAU brif oriel mwy o faint, gofod prosiect, ardal gweithgareddau, stiwdios artistiaid, ac ardal perfformans blaen y tŷ, bar ac ardal caffi cymdeithasol. Bydd yr elysium newydd yn caniatáu digwyddiadau mwy uchelgeisiol gyda mwy o gyfleoedd i artistiaid a gwell hygyrchedd i’n cynulleidfaoedd. Cadwch eich llygaid ar agor am fwy o wybodaeth am sut y gallwch chi gymryd rhan.

Wrth i mi ysgrifennu hyn, mae e-bost newydd cyrraedd yn amlinellu’r sefyllfaoedd dranc a ddigalon ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru o achos Brexit; nid yw’r olygfa’n rhy dda, on beth bynnag a all ddigwydd yn y byd agored, mae’r dyfodol dal yn edrych yn gyffrous ar gyfer elysium a’i artistiaid, ac rydym yn edrych ymlaen at ein 12fed flwyddyn.

Dyma grynodeb o 2018:

Dechreuodd y flwyddyn gydag un o artistiaid stiwdio elysium, Tim Warren, a’i arddangosfa ‘Mae gen i le mewn cof‘ a ddaeth at eu gilydd gyfres o beintiadau tirlun hardd, gan greu tirluniau breuddwydol sy’n gysylltiedig â chof ac emosiwn.

Dilynwyd hyn gan artist stiwdio elysium arall, Richard Williams, a oedd ein artist preswyl cyntaf y flwyddyn, a ddefnyddiodd y gofod oriel am fis fel stiwdio i greu gwaith newydd ar gyfer ei arddangosfa ‘Come get it while it’s cold‘. Mae atmosffer, hwyliau a golau yn gynhwysion pwysig o ddarluniau ‘chydig swrrealaidd Williams, a oedd yn ymwneud â’r syniad o ddatgysylltu dynoliaeth a’i ecsbloitio o’r ecosystem, yn benodol gyda’r amddifadedd enfawr a chynyddol presennol o boblogaethau pryfed yn Ewrop.

Ail artist preswyl 2018 oedd graddedig o Goleg Celf Abertawe, Dafydd Williams. Cymerodd Williams y preswyliaeth hon fel cyfle i archwilio ei archif teuluol; yn fwy penodol tapiau VHS fideo cartref teulu. Trwy ei arddangosfa bwerus sy’n deillio o hynny, ‘Settling to a still pool‘, fe wnaeth Dafydd ymchwilio y dirywiad a marwolaeth o ddefodau teuluol trwy byrhoedlog a thrwy drawma. Mae trawma, yn yr achos hwn, yn cymryd ei ffurf fel alcoholiaeth.

Ym mis Mehefin, teithiodd artistiaid dethol o artistiaid stiwdio oriel elysium i fyny i Wrecsam yng Ngogledd Cymru am ‘Ry’n Ni’n Byw’n Bellach I’r Dde Na Chi‘. Lansiodd hyn y cyntaf o gyfres o arddangosfeydd a digwyddiadau rhwydweithio gan ddod â rhwydweithiau Stiwdio Artistiaid o bob cwr o Gymru at eu gilydd i greu llwyfan ar gyfer rhannu sgiliau, ysgogi sgyrsiau creadigol a meithrin prosiectau newydd. Mewn cydweithrediad ag Undegun, Wrecsam, yn ogystal â CALL, Llandudno a CARN o Gaernarfon, bydd artistiaid Gogledd Cymru yn arddangos yn oriel elysium yn 2019.

Trydydd artist preswyl y flwyddyn oedd graddedig Ysgol Gelf Caerfyrddin, Sophie Kumar-Taylor, a wnaeth dominyddu’r oriel gyda’i arddangosfa gosodiad safle penodol, Mix-Tape. Yn arfog gyda bag wedi’i lenwi â nifer o dâp a siswrn, mae gwaith Sophie Kumar-Taylor yn archwilio geometreg, afluniad a thwyll llygaid tra’n arbrofi â thyniadau a pherthnasau lliw.

Ffrwydrodd mis Medi gyda’r Wobr Peintio Eilflwydd Beep, ac arweinir gan elysium, a oedd yn cynnwys arddangosfeydd a digwyddiadau ar draws gwahanol leoliadau yn Abertawe. Roedd Gwobr Peintio Beep 2018 yng Ngholeg Gelf Abertawe yn cynnwys dros 100 o beintwyr cenedlaethol a Rhyngwladol a oedd yn dangos yr amrywiaeth a bywiogrwydd o fewn peintio cyfoes. Enillwyd y brif wobr ar y cyd gan Jason Gregory a Kelly Ewing tra enillodd Helen Booth y wobr Gymreig a noddwyd gan Gyfeillion y Glynn Vivian. Bydd y tri artist yn arddangos gydag elysium yn 2019.

Roedd 子午線 Meridian yn cynnwys darluniau o beintwyr Tseiniaidd cyfoes yn Theatr Volcano. Nododd yr arddangosfa hardd hon ddechrau’r gyfnewidfa ddiwylliannol elysium/ Tsieina a fydd yn parhau yn 2019 a 2020. Hefyd, rhan o Wobr Eilflwydd Beintio Beep yn Oriel Mission oedd ‘NightSwimming‘ a baratowyd gan Casper White/ Oriel Lle a daeth ynghyd gweithiau gyfoes sy’n ymestyn i mewn i’r tywyllwch, gan holi sut mae diffyg golau yn effeithio ar y gwaith a beth mae hyn yn ei olygu i’r gwyliwr.

Uchafbwyntiau eraill y Wobr Eilflwydd Peintio Beep oedd Joy Revision yn Galerie Simpson a gafodd ei curadi gan Jane Simpson, yn cynnwys pump o beintwyr cyfoes pwysig yn Angela De LA Cruz, Stephen Snoddy, Andrea Ruthi, Anne Ryan a Sarah Pickstone. Daeth ‘Everything Now‘ yn 211 Stryd Fawr ynghyd â 31 o gyn-fyfyrwyr Coleg Celf Abertawe o’r 50 mlynedd diwethaf. Roedd yr arddangosfa’n cynrychioli gwahanol genedlaethau, profiadau a momentau, ond yn bwysicaf oll, dathlodd y presennol. Ar lawr uchaf yr un lleoliad roedd arddangosfa unigol o baentiadau hyfryd newydd gan artist o stiwdios elysium, Amy Goldring. Yn olaf, yn oriel elysium roedd arddangosfa gan y tri artist preswyl haf elysium, Kena Brown, Sophie Harding a Dylan Williams, gyda’u harddangosfa o baentiadau newydd ac amrwd ‘Paint to the Teethbone‘.

Yn ôll, roedd Wobr Eilflwydd Peintio Beep 2018 yn llwyddiant ysgubol gan ddod â holl gyrff celfyddydau ac addysgol Abertawe at ei gilydd i greu digwyddiad Rhyngwladol ledled y ddinas.

Nid oedd pethau’n stopio yno, fel ym mis Medi, cyflwynodd elysium ei Oriel Gelf a Stiwdio Symudol. Trawsnewidiwyd hen gerbyd ystafell arddangos ac adnewyddwyd i mewn i ganolfan gelfyddydol a ganiataodd i elysium gymryd rhai o’i weithgareddau o gwmpas Abertawe a thu hwnt. Dechreuodd hyn gyda chyfres o ddigwyddiadau arlunio byw dros dro yn Sgwâr Castell Abertawe, Y Farchnad, ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Dilynwyd hyn gan weithdai yn Amgueddfa Abertawe, blaen y traeth, gydag oedolion ag anawsterau dysgu yn Llanelli a chleifion dementia ym Mhort Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae’r mobil wedi dod yn rhan annatod o’r hyn a wnawn, a bydd yn chwarae rhan bwysig wrth gyrraedd gwahanol gymunedau yn Ne Cymru yn 2019.

Cynhaliwyd arddangosfa arall oddi ar y safle ‘Sawl peth yr ydym yn anghofio eu cofio/ Some things we forgot to remember‘ yn Amgueddfa Abertawe o fis Medi hyd at ddiwedd y flwyddyn. Gwelodd hyn 30 o artistiaid yn creu gwaith celf newydd i ymarweithio ag arddangosfa’r Rhyfel Byd Cyntaf yn yr amgueddfa ac roedd yn cynnwys ffilm, cerflunwaith, paentio, ffotograffiaeth a oedd i gyd yn eistedd ymhlith yr arteffactau sy’n cael eu harddangos. Roedd yr arddangosfa hon yn llwyddiant ysgubol ac wedi paratoi’r ffordd ar gyfer digwyddiadau o’r fath yn y dyfodol mewn lleoliad gwych.

Gwelodd ‘Cynefinoedd/ Habitats‘ artistiaid stiwdios elysium, Philip Cheater, Kathryn Anne Trussler, Amy Goldring, Tom Morris ac artist Gaerfyrddin Sophie Kumar-Taylor yn ymfudo eu hunain yn y llystyfiant lliwgar a chynefinoedd amrywiol a ddarlunir ym mhaneli Neuadd Brangwyn Abertawe, gan greu gwaith mawr a llai a arddangoswyd yn Theatr Grand Abertawe a’r Gerddi Botaneg Cenedlaethol. Defnyddiwyd cymysgedd o beintio, collage a tecstiliau i dynnu sylw at y gwaith godidog a chuddiedig hyn gan Frank Brangwyn tra roedd printiau gwreiddiol gan y dyn ei hun yn cael eu harddangos ochr yn ochr â’r ymatebion cyfoes yn Theatr y Grand.

Parhaodd thema Brangwyn yn ôl yn oriel elysium gyda Margea Palser a Frank Brangwyn- ‘NoW the WaR, NoW yer RaW‘. Wedi’i ysbrydoli gan luniadau gwreiddiol Frank Brangwyn a ddangoswyd yn yr oriel a’r nifer helaeth o eitemau a phynciau a gynhwysir yn y paneli murlun, creodd Palser gyfres o berfformiadau hyfryd a chofiadwy yn dadbennu ac ailddefnyddio delweddau dethol o’r paneli o fformat ddewislen. Cafodd myfyrdod ar ryfel a’r ymerodraeth fel, yn llythrennol, ‘teganau bachgen’, eu chwalu a’u cymysgu â blodau a ffawna.

Roedd ‘Swansea Heaven and Hell‘ yn brofiad aml-ddisgyblaeth godidog lle’r oedd artistiaid, beirdd, cerddorion a pherfformwyr yn ein tywys trwy daith mewn byd o absoliwt, o oleuiad pur trwyddo i’r budr ac uffernol. Gan gymryd ysbrydoliaeth o’r traethawd Pentref Abertawe a ysgrifennwyd gan Edward Thomas ym 1914 lle ysgrifennodd ‘(Abertawe) yn wrach fudr. Mae’n rhaid i chi ei caru a’i casáu hi, ac rwyf wrth fy modd yn ei charu a’i chasau hi’. Am un noson cafodd y lleoliad cerdd Creature Sound ei drawsnewid i mewn i deyrnged i bob peth Abertawe yn cynnwys Deinosoriaid, môr-forynion, rhefru a rafio. Rhaid bod ‘na!

Ymchwiliodd a chwiliodd artist preswyl olaf y flwyddyn Marega Palser am galon a chanolfan Abertawe yn ‘Framing the Transient NoW‘. Gan ddisgrifio ei phroses fel Mapio Dwfn, roedd ei harddangosfa ganlynol yn ddarlun manwl, amlgyfrwng o le a phawb sy’n bodoli ynddi. Yn broses a chynnyrch, daeth yr oriel yn lle creadigol oedd yn weledol, agored, aml-haenog, ac yn newid erioed. Lle mae mapiau traddodiadol yn gweithredu fel datganiadau, mae mapiau dwfn yn gwasanaethu fel sgyrsiau. Mae Abertawe yn glwyf agored lle, ers dinistriad canol y ddinas yn ystod yr Ail Rhyfel Byd mai erioed wedi gwella.

Gwelwyd arddangosfa olaf y flwyddyn oriel elysium yn cyflwyno corff gwaith newydd gan enillydd Gwobr Ffotograffiaeth ESPY Rhyngwladol 2017, Kathryn Allen Hurni. Daeth ei sioe ‘Tystion/ Witness‘ at ei gilydd gyfres o naratifau trawiadol yn coreograffu dieithriaid o fewn y tirluniau y mae hi’n tynnu llun o mewn proses y mae’n disgrifio fel “rhannol potsio a rhannol gŵar.” Arddangosfa anhygoel i bennu blwyddyn caotig a llwyddiannus.

Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi gweithio gyda ni a’n cefnogi ni drwy gydol y flwyddyn. Mai pethau ar fîn troi’n yn llawer mwy enfawr a chyffrous Os hoffech gymryd rhan, yna danfonwch linell i ni.

Hwyl fawr 2018 a helo 2019!

Oddi Wrth bawb yn oriel elysium X