Cysylltu a Ffynnu
Rhagolwg: Dydd Gwener 30 Mai, 7yp
Arddangosfa’n parhau tan 12 Gorffennaf, Oriel ar agor Dydd Mercher – Dydd Sadwrn 11yb-7yp
Croeso i Gysylltu a Ffynnu!
Arddangosfa sy’n dathlu creadigrwydd niwroamrywiol yn Abertawe. Mae’r arddangosfa hon yn nodi diweddglo prosiect 18 mis Cysylltu & Ffynnu, a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
- Yn gweithio o fewn tri grŵp anhygoel o bob rhan o Abertawe:
- Asdes – Awtistiaeth, Sgiliau, Datblygiad a Chefnogaeth
- Coleg Gŵyr – Adran Sgiliau Byw’n Annibynnol
- Shine Cymru – Gwasanaeth Datblygu Sgiliau Bywyd.
Creodd y prosiect ofod i unigolion niwroamrywiol archwilio, creu, a chydweithio ar draws ystod o ffurfiau celfyddydol – ac i adrodd eu straeon eu hunain.
O Ymarfer i Gynhyrchu
Lluniodd y cyfranogwyr bob rhan o’r gweithiau terfynol:
- Ysgrifennu eu sgriptiau eu hunain
- Creu effeithiau sain a chefnlenni
- Dylunio a gwneud masgiau
- Perfformio yn a helpu i gynhyrchu eu ffilmia
- Mae ffilm orffenedig pob grŵp yn ganlyniad dychymyg, dyfalbarhad, a chydweithio – cyflawniad creadigol y gallant fod yn falch ohono.
Y Daith mewn Rhifau
Dros gyfnod y prosiect:
Cynhaliwyd 55 o sesiynau creadigol
Cymerodd 56 o gyfranogwyr ran
Daeth cyfranogwyr o SA1 i SA5, gydag un yn ymuno o Gastell-nedd
Croesawyd – 16 o fenywod a 40 o ddynion, rhwng 17 a 34 oed
Roedd mwy na 50% yn ymweld ag Oriel Elysium am y tro cyntaf
Ar ôl cyfnod rhagflas o 6 mis, gofynnodd y cyfranogwyr i barhau – eisiau creu rhywbeth mwy parhaol. Penderfyniad a luniodd weddill y daith…
Llwybrau Creadigol
Gydag arweiniad gan 21 o artistiaid, archwiliodd y cyfranogwyr 6 ffurf celf:
- · Animeiddio a Gwneud Ffilmiau
- Gwneud Masgiau a Symudiad
- Cynhyrchu Cerddoriaeth a Dylunio Sain
- Ffotograffiaeth
- Sgriptio
- Celf Graffiti
Arweiniwyd pob sesiwn gan artist proffesiynol ochr yn ochr ag artist cynorthwyol niwrowahanol gan sicrhau profiadau cynhwysol a grymusol.
