Ymweliad

Cael Hyd i Ni

oriel elysium, 210 Stryd Fawr, Abertawe, SA1 1PE

Rydym yn llai na 2 funud ar droed o Orsaf Trên Abertawe

Agor

 Rydym ar agor Dydd Mercher – Dydd Sadwrn 11yb – 6yh

Mae ein Caffi a Bar trwyddedig llawn ar agor

Ar agor yn hwyrach yn y nos ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau byw (gweler y rhaglen)

Cyngor COVID ar gyfer ymweld ag oriel elysium

Rydym yn parhau i gynnal mesurau COVID-19 i sicrhau diogelwch ein staff a’n hymwelwyr, gan gynnwys rhifau cyfyngedig, gwisgo masgiau wrth symud o amgylch yr adeilad a digon o ddiheintydd dwylo ar gael. Gwiriwch canllawiau Llywodraeth Cymru cyn ymweld os ydych yn ansicr o’r rheoliadau.

Parcio

Nid oes cyfleuster parcio ar y safle, ond mae dau faes parcio aml-lawr cyhoeddus nid dau funud o’r oriel ar Stryd Fawr (drws nesaf i’r Orsaf Drên) ac ar Stryd y Berllan gerllaw.

Hygyrchedd

Mae gan elysium fynediad gwastad i’r adeilad trwy’r fynedfa flaen yn unig.

Mae gan y Bar a’r Oriel fynediad gwastad ac mae’n gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn.

Mae cyfleusterau toiled ar ein llawr gwaelod a’n lloriau cyntaf gan gynnwys toiledau pob rhyw ar y llawr cyntaf. Mae yna doiledau i’n cwsmeriaid anabl ar y llawr gwaelod.

Mae yna barcio arhosiad byr wrth fllaen yr adeilad sydd yn bennaf ar gyfer llwytho a dadlwytho nwyddau ond gellir ei ddefnyddio i gael mynediad haws i’r oriel i ddefnyddwyr anabl.

Nid ydym yn argymell parcio am gyfnodau hir ar y Stryd Fawr gan fod y Wardeiniaid Traffig yn Abertawe yn angheuol!

Mae oriel elysium wedi ymrwymo i ddarparu mynediad i’w holl arddangosfeydd a gweithgareddau. Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch gyda mynediad a chymryd rhan, mae croeso mawr i chi gysylltu â ni.
Mae’n bosib i ofyn am iaith arwyddion ar gyfer unrhyw un o’n digwyddiadau. Bydd angen cymaint o rybudd â phosibl.

Newid Arddangosfeydd

Sylwch fod yr oriel ar gau yn ystod gyfnodau newid arddangosfa. Gweler y dudalen Arddangosfeydd am ddyddiadau a ffoniwch yr oriel ar 01792 648178 if os ydych chi’n ansicr a ddylech chi deithio.

Bydd y Caffi/ Bar fel arfer yn aros ar agor yn ystod cyfnodau newid.