Ewch i’n sianel deledu Youtube ar gyfer ystod eang o sgyrsiau artistiaid, cyfweliadau, a ffilmiau. Hoffwch a thanysgrifiwch gyda chynnwys newydd yn cael ei uwchlwytho bob mis.
Sgwrs Artist: Marie-Thérèse Ross
Mae cerfluniau Marie-Therese Ross wedi’u gwneud o gyfuniad o rannau pren wedi’u lamineiddio. Mae’n defnyddio gwrthrychau a ddarganfuwyd sy’n cael eu hintegreiddio a’u thrawsffurfio i mewn i’r gweithiau gyda phren sydd wedi’i gerfio a beintio- mae lliw yn ychwanegu haen arall o fynegiant ac ystyr i’r cyfanwaith. Mae màs y pren yn adleisio’r llinellau wedi’u arlunio a’u torri allan a geir yn ei darluniau a’i gludweithiau, gan fenthyg ei hun yn dda i’w phroses o weithio.
Mae cerfluniau Ross wedi’u gwneud o gyfuniad o rannau pren wedi’u huwchgylchu wedi’u cerfio a’u lamineiddio. Yn ogystal â gwrthrychau a ddarganfuwyd sy’n cael eu hintegreiddio a’u thrawsffurfio i’r gweithiau a’u peintio.
Mae Marie-Thérèse Ross MRSS yn aelod o Gymdeithas Frenhinol y Cerflunwyr ac yn byw ac yn gweithio yn Llundain. Astudiodd beintio yng Ngholeg Celf Loughborough ac mae ganddi radd Meistr mewn cerflunwaith o Brifysgol Pennsylvania UDA.
Sgwrs Artist: Sokari Douglas Camp
Ganwyd Sokari Douglas Camp yn Buguma, Nigeria, ym 1958, ac mae’n byw ac yn gweithio yn Llundain, y DU. Mae hi wedi cael mwy na deugain o sioeau unigol ledled y byd ac yn 2005 dyfarnwyd CBE i Douglas Camp i gydnabod ei gwasanaethau i gelf. Mae ei gwaith yng nghasgliadau parhaol Amgueddfa Genedlaethol Celf Affricanaidd, Sefydliad Smithsonian, Washington, D.C., UDA; Amgueddfa Gelf Setagaya, Tokyo, Japan; a’r Amgueddfa Brydeinig, Llundain, DU.
Mae Douglas Camp yn trawsnewid drymiau olew ac yn llunio dur i mewn i gerfluniau ffigurol sydd yn aml wedi’i wreiddio yn niwylliant Affricanaidd lle ganwyd yr artist. Mae ei gwaith yn hynod o liwgar, ac yn defnyddio elfennau patrwm, tecstilau ac addurniadol. Yn hytrach na dylunio a thorri â laser mae Camp yn ‘arlunio’ patrymau â llaw gan ddefnyddio chwythlamp i dorri i mewn i’r llen ddur.
Disgrifia ei gwaith fel ‘y llawenydd o wneud’, fodd bynnag mae ei gwaith hefyd yn wleidyddol ac wedi’i wreiddio yn niwylliant Affricanaidd; mae ei defnydd o ddrymiau olew i greu harddwch yn ddatganiad ymwybodol ac ingol o gynhyrchiad olew Delta Niger ac mae’n un o’r lleoedd mwyaf llygredig yn y byd.
Sgwrs Artist: Lee Grandjean
‘I mi, mae’n rhaid gwthio deunyddiau y tu hwnt i’w nodweddion llythrennol, nid harddwch yw’r nod, ond egni a phresenoldeb cerfluniol dilys a chredadwy lle mae ffurf, a chynnwys yn un’.
Cerflunydd, drafftsmon ac athro, a aned yn Llundain, er iddo fyw am ran o’i ieuenctid yn Rwmania. Astudiodd yng Ngholeg Polytechnig Gogledd-Ddwyrain Llundain, 1967–8, yna Ysgol Gelf Winchester, 1968–71. Roedd gan Grandjean stiwdio yn Llundain, 1971–80, yna symudodd i Reepham, Norfolk. O 1980–1 bu’n gymrawd ymchwil mewn cerflunwaith yn Ysgol Gelf Winchester, ar ôl darlithio yn Ysgol Gelf Wimbledon ers 1976, penodwyd yn uwch diwtor o 1977. Ym 1991 daeth yn diwtor cerflunwaith yn y Coleg Celf Brenhinol. Mae’n gweithio yn eang hefyd fel darlithydd gwadd ac arholwr.
Mae Grandjean yn gweithio mewn amrywiol ddeunyddiau ac mae ganddo ddiddordeb mewn “trawsnewid deunydd” a chyda gwareiddiadau an-Ewropeaidd ac hynafol rhanwyd awydd i “roi deunyddiau crai yn sylwedd mynegiannol arall.”
Sgwrs Artist: Andrew Sabin
‘I mi mae creu cerfluniau yn antur emosiynol y gall unrhyw un ymuno â hi. Pan fyddwn yn gosod y bwrdd neu’n golchi ein gwallt neu’n cloddio twll yn y ddaear rydym yn symud deunyddiau o gwmpas ac yn ymateb iddynt – doniol neu drist, y cyllyll a ffyrc mewn pentwr neu wedi’i osod mewn trefn, gwallt yn sticio allan mewn pigau neu wedi’i gywasgu mewn mat, mae’n rhaid i ni ymddiried yn ein hymatebion, eu cymryd o ddifrif ac yna rydym ar y llwybr tuag at chwarae gyda cherflunwaith’.
Mae Andrew Sabin (ganwyd ym 1958) yn gerflunydd arbrofol Prydeinig sydd wedi gwneud cyfraniadau pwysig i osodiad, creu gwrthrychau a Chelf Tirwedd. Mae The Coldstones Cut yn Nyffrynnoedd Swydd Efrog yn un o’r cerfluniau tirwedd mwyaf poblogaidd ym Mhrydain ac roedd gosodiad The Sea of Sun yn waith amlwg yn yr arddangosfa gyntaf o gerfluniau cyfoes yn Sefydliad Henry Moore, Leeds. Astudiodd Sabin gerflunwaith yn Ysgol Gelf Chelsea lle daeth yn uwch ddarlithydd yn ddiweddarach. Ar safle adeilad gwreiddiol Chelsea mae ei waith coffa ‘Painting and Sculpture’ wedi’i leoli’n barhaol.
Materion Materol
Mae Materion Materol, wedi’i churadu gan yr artist Sarah Tombs, yn dod â gwaith pedwar cerflunydd Prydeinig cyfoes ynghyd. Mae’r arddangosfa yn Oriel Elysium, Abertawe, yn archwilio’r berthynas rhwng proses a pherthnasedd, sut mae’r cerflunydd, trwy arbrofi a thrin, yn gallu cynhyrchu gwrthrychau cerfluniol y mae eu cynnwys a’u cymhellion yn hygyrch i gynulleidfa. Mae ymgysylltu â deunyddiau a phrosesau ‘gwneud’ yn ddadl arbennig o berthnasol gydag argaeledd cynyddol technoleg ddigidol, Gweithgynhyrchu â Chymorth Cyfrifiadur a chydag ymddangosiad AI yn bygwth gwneud ymdrech artistig ddynol yn ddiangen.
Sgyrsiwn gyda Sarah Tobs a’r pedwar artist Lee Grandjean, Andrew Sabin, Sokari Douglas Camp a Marie Thérèse Ross am yr arddangosfa drawiadol yma.
Rhwydweithiau Niwrowahanol Creadigol
Yn 2023 dyfarnwyd Grant Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru i Oriel Elysium ar gyfer ein prosiect peilot Rhwydweithiau Niwrowahanol Creadigol.
Mae Rhwydweithiau Niwrowahanol Creadigol yn blatfform creadigol cefnogol ar gyfer y gymuned niwrowahanol ehangach, wedi’i leoli yng nghanol gweithgareddau creadigol oriel elysium.
Gan weithio gydag artistiaid niwrowahanol a grwpiau fel arweinwyr creadigol; trwy gydol 2023/2024 bydd Oriel Elysium, Taliesin, ASDES a Shine Cymru yn hwyluso cyfres o weithdai a gweithgareddau rhwydweithio i gyfranogwyr niwrowahanol ddatblygu eu prosiectau creadigol eu hunain a sgiliau newydd.
Mae’r ffilm hon yn edrych ar ran gyntaf y prosiect a oedd yn cynnwys cyfres o weithdai blasu gan artistiaid arweiniol gyda chymorth artistiaid niwrowahanol yn archwilio gwahanol gyfryngau megis celf stryd a graffiti, collage sain rhyngweithiol, animeiddio, gwneud ffilmiau, drama a pherfformiad, ysgrifennu sgriptiau.
Agweddau allweddol ar y prosiect hwn yw bod cyfranogwyr niwrowahanol yn ganolog i’r broses o wneud penderfyniadau am yr hyn yr ydym i gyd yn ei wneud gyda’n gilydd; a’n bod ni i gyd yn dysgu, yn tyfu ac yn datblygu wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen.
Sarah Poland – Y Negesydd a’r Trosiad
Mae Distawrwydd – Y negesydd a’r Trosiad yn edrych ar agwedd Sarah Poland at ei hymarfer, gan chwilota am liwiau botanegol o’r amgylchedd cyfagos a datblygu gardd ar gyfer tyfu planhigion lliwio. Mae’r holl ddeunyddiau yn ei harddangosfa gyfredol yn oriel elysium, Abertawe o ffynonellau cynaliadwy a moesegol.
Cawn ymweld â Sarah yn ei stiwdio yng Ngorllewin Cymru lle mae ganddi faddon haearn bwrw mawr awyr agored wedi’i danio â choed lle mae’n defnyddio lliw botanegol i liwio darnau o gynfas cyn peintio. Ar ôl dechrau gweithio ar gynfas heb ei ymestyn yn y stiwdio, gan ei gyfuno â’r profiad gweledol o decstilau’n hongian ar y lein ddillad, esblygodd y gwaith i’r gosodiad sy’n hongian yn yr arddangosfa hon, Forest. Gyda’r gwaith mwy, yn gobeithio ymgysylltu’n gorfforol ac yn ofodol yn ogystal â chysyniadol, gan feithrin perthnasoedd rhwng y deunyddiau a’r haniaethol, mae Forest yn cael ei ddyfeisio fel darn sy’n gallu newid ei faint i ffitio gwahanol ofodau arddangos.
Sgwrs Artist: Laura Ford
Rydyn ni’n siarad â’r cerflunydd adnabyddus Laura Ford, un o’r artistiaid yn ein harddangosfa Enw Cyfarwydd.
Mae Laura wedi arddangos ei gwaith yn helaeth ac mae ganddi waith wedi’i gynrychioli mewn llawer o gasgliadau cyhoeddus gan gynnwys TATE, V&A ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Wedi’i geni yng Nghaerdydd ym 1961 cafodd Laura ei chynnwys yn Sioe Gelf Brydeinig 5, 2000 a chynrychiolodd Gymru yn Biennale 51ain Fenis yn 2005.
Cyfnod Cloi a’r Artist Soddedig: Andre Stitt
Mae André Stitt yn trafod gwaith a wnaed yn ystod y cyfnod cloi fel artist canol gyrfa neu’r hyn y mae’n ei alw’n artist ‘soddedig’.
Gan weithio bron yn gyfan gwbl fel artist perfformio a rhyngddisgyblaethol o 1976-2013 enillodd Stitt enw da yn rhyngwladol fel artist perfformio am waith blaengar, pryfoclyd a heriol yn wleidyddol. Ers hynny mae wedi newid ei ymarfer celf i beintio. Yn 2015 dyfarnwyd iddo brif Ddyfarniad Cymru Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru i ymchwilio ymhellach i beintio mewn perthynas â chelf gosodwaith. Mae’n Athro Perfformio a Chelf Rhyngddisgyblaethol yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a bu’n gyfarwyddwr Trace: Installaction Artspace yng Nghaerdydd rhwng 2000-2010.
Sgwrs Artist: Daniel Trivedy
Rydyn ni’n siarad ag enillydd Eisteddfod Genedlaethol 2019, Daniel Trivedy.
Mae gan Daniel ddiddordeb yn ein perthynas seicolegol â’n gilydd. Mae’n archwilio natur ddeinamig y perthnasoedd hyn a rôl cynrychiolaeth mewn perthyn. Yn y bôn, mae ganddo ddiddordeb yn y glud sy’n ein dal ni gyda’n gilydd ond hefyd yr hyn sy’n ein cadw ni ar wahân. Mae Daniel yn sôn am y dylanwadau amrywiol sy’n llywio ei waith a’i agwedd bresennol at ddeunyddiau.