Beep2014 yn cyflwyno ‘Portread o’r Artist fel…’
Jacqueline Alkema | Hannah Blight Anderson | Tom Banks | Tim Le Breuilly | Janet Brown | Andrew Butler | Ije Amanda Carr | Jason Cartwright | Barry Charlton | Joss Cole | Richard Cox | Barrie J Davies | David Rees Davies | Cornelius Delaney | Shaun Featherstone | Yvonne Yiwen Feng | Arina Gordienko | Alastair Gordon | Lucja Grodzicia | Penny Hallas | Clare Harding | Bernard Heslin | Marc Heaton | Jill Iffe | Shelley Irish | Jaqueline Jones | Sally Jones | Priscilia Kheng | Ankur Kumar | Scott Mackenzie | Enzo Marra | Victoria Malcolm | Eilish McCann | Richard Monahan | Anne Moses | Ruth Murray | Aidan Myers | Paul Newman | Tom Pitt | Adam Rees | Andre Stitt | Ann Suganami | Michael Szpakowski Kate Walters | Lee Williams | Nicola Williams | Kay Bainbridge Wilkinson | Steve Wright
Rhagolwg: Dydd Gwener Hydref 10fed 19:00 | Arddangosfa yn rhad ac am ddim yn parhau tan Ddydd Sul Tachwedd 9fed
Oriau agor: Dydd Mercher – Ddydd Sul 12 – 17:00
Lleoliad: Yr hen adeilad Iceland, 27-29 Stryd Fawr, Abertawe, SA1 1NU
Unig arddangosfa cyfoes, rhyngwladol, raddfa-fawr Cymru yw Beep (Bi—ennial exhibition of painting), un sy’n dod a pheintio allan o orielau traddodiadol ac i mewn i fannau manwerthu di-ddefnydd yng nghanol Dinas Abertawe.
Yn dilyn ymlaen o Beep 2012: Trwy Lygaid Yfory (Through Tomorrow’s Eyes), thema’r flwyddyn yma yw ‘Portread o’r Artist fel…’ (‘A Portrait of the Artist as…’) ac fe fydd yn cynnwys gwaith gan 48 artist o bob cwr o’r byd. Roedd dros 200 o gyflwyniadau i’r arddangosfa; gofynnwyd i’r artistiaid gwyro o bortreadau traddodiadol ac archwilio i mewn i sut y maent yn gweld eu hunain fel artist neu pha ddigwyddiadau neu lleoliadau sydd wedi’u siapio nhw i’r person maent heddiw… ffaith neu ffuglen, nhw penderfynnodd. Dewiswyd yr arddangoswyr gan yr artist ac awdur enwog Cymreig, Iwan Bala, a Ruth Cayford, rheolwr Celfyddydau Gweledol ar gyfer cyngor Sir Caerdydd.
Mae dwy oriel celf yn Abertawe yn darparu gwobrwyon; Oriel Elysium sy’n noddi’r brif wobr tra bod Oriel Mission yn darparu dewis y Bobl ac hefyd yn rheoli wobr peintio PlantBeep2014 sydd yn rhedeg ar yr un pryd â’r prif arddangosfa. Bydd hefyd amrywiaeth o weithdai a gweithgareddau gan yr artistiaid drwy gydol y sioe.
Y flwyddyn yma, mae beep2014 yn ffurfio rhan o ddathliadau pen-blwydd 100 oed Dylan Thomas, a bydd yr arddangosfa yn cael ei gynnal yn y cyn Archfarchnad gwasgarog, Iceland, ar Stryd Fawr Abertawe. Cafodd yr adeilad ei brynu ac adnewyddu yn ddiweddar gan Grŵp Tai ‘Coastal’ fel rhan o’i strategaeth ar gyfer adfywio Stryd Fawr, ac y mae’r adeilad ar fin dod yn ganolfan artistig newydd i’r gymuned.
Ruth Murry – The Croft