Canolfan Menter Creadigol elysium

9 elysium-0029 5 3 untitled shoot-7071

Mannau gwaith a swyddfeydd ar gyfer busnesau creadigol bach, busnesau newydd a gweithwyr annibynnol ar gael AR OSOD.

A ydych yn gweithio yn y diwydiannau creadigol? Gallwn gynnig gofod proffesiynol o fewn amgylchedd creadigol sefydledig a bywiog.

Bydd y gofodau newydd arfaethedig ar Stryd Fawr Abertawe yn darparu lle ar gyfer unigolion a busnesau creadigol i weithio, cyfarfod, cydweithredu a bwydo i mewn i rwydwaith cymorth bywiog o artistiaid o fewn gymuned stiwdios orielysium/ elysium gallery.

Gan weithio mewn cydweithrediad agos â phrifysgolion lleol, sefydliadau a busnesau celfyddydol, mae orielysium/ elysium gallery yn awyddus i ddarparu mannau gweithio hollol addas i ddiwallu anghenion ymarferwyr sy’n gweithio mewn crefftau, ffotograffiaeth, ffilm, darlunio, 2-D a 3-D.

Bydd y stiwdios newydd yn meddiannu gofod o 11,000 troedfedd sgwâr a byddent yn amrywio o 8 man ‘hot desking’, 21 man preifat, cloadwy, ardal gegin gyda storfa ar gyfer pob denant, yn ogystal ag ystafell cyfarfod fawr.

Bydd prisiau yn amrywio o £120 – £190 y mis (gan gynnwys TAW), gyda mannau desg o gwmpas £40 y mis. Mae’r holl biliau a rhyngrwyd wedi’u cynnwys yn y rhent.

Bydd gwaith adeiladu’r stiwdios yn dechrau yn fuan, a byddent yn hyblyg i anghenion pobl.

Mae Abertawe eisoes yn sefydlu ei hun fel canolbwynt fywiog ar gyfer diwylliant cyfoes ac mae orielysium/ elysium gallery am sicrhau bod gan ei artistiaid mannau i weithio, arddangos a goroesi mewn cymuned greadigol gynaliadwy.

Anfonwch e-bost i info@elysiumgallery i gofrestru diddordeb a gofyn unrhyw gwestiynau.

Mae orielysium/ elysium gallery yn fenter cymdeithasol, hunangynhaliol a arweinir gan artistiaid, gyda 60+ stiwdios, ac oriel celf gyfoes dros 3 safle yng nghanol dinas Abertawe, Cymru, DU. Rydym yn cefnogi 13 stiwdio ac oriel yn 16 Stryd y Coleg, Abertawe, a 13 stiwdio yn 2, Stryd Mansel, Abertawe. Mae orielysium/ elysium gallery hefyd yn rhedeg 35 gofod stiwdio, oriel/ gofod cysyniadol, llyfrgell cymunedol ac ardaloedd ymchwil, a rhaglenni artist preswyl ar lawr uchaf yr hen adeilad Iceland ar y Stryd Fawr, Abertawe. Rydym hefyd yn rhedeg digwyddiadau ac arddangosfeydd oddi ar safle amrywiol, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae orielysium/ elysium gallery yn ceisio meithrin profiad cydweithredol a chyfranogol, yn creu cymuned bywiog a chreadigol yn Abertawe. Ein nod yw i greu’r fframwaith am fyd o syniadau ac ysbrydoliaeth bydd yn bwydo i mewn i adfywio Canol Dinas Abertawe.