Arlunio ac Archwilio


Event Details

This event finished on 23 September 2023


Arlunio ac Archwilio

Dyma gweithdai celf galw heibio AM DDIM wedi’u hanelu at deuluoedd. Cyfarfod yn Oriel Elysium, 210 Stryd Fawr, Abertawe. Byddwch yn mynd am dro bach i arlunio ac archwilio yn y Ddinas.

Bydd lleoliadau’r teithiau cerdded yn dibynnu ar symudedd aelodau’r grŵp a’r tywydd. Bydd ymweliadau posib yn cynnwys amgueddfeydd, orielau, y farchnad, a mannau arwyddocaol o amgylch y ddinas.

Bydd aelodau’r grŵp yn cael llyfr braslunio i’w arlunio ynddi a bydd y sesiynau’n cael eu harwain gan artistiaid. Bydd dau artist yn cynnal y sesiynau, gan roi ffocws neu thema benodol a gwahanol agweddau o’r ddinas, gan edrych, trafod, darlunio a dysgu am hanes cyfoethog y lle.

Bydd y gweithdai celf yn hwyl a chyfeillgar gan ganiatáu digon o amser i sgwrsio, datblygu syniadau creadigol a chynyddu gwybodaeth am hanes a diwylliant lleol.

Byddwn yn cynnig y cyfle i ddatblygu astudiaethau llyfr braslunio ac arbrofi ymhellach gyda deunyddiau celf, archwilio dehongliadau hwyl a llawn dychymyg o’n profiadau ar y teithiau cerdded fel modd o hunan fynegiant yn y dosbarth. Bydd y sesiynau’n cael eu strwythuro a bydd yr artistiaid yn cefnogi aelodau’r grŵp yn eu hymchwiliad i sut y gellir defnyddio deunyddiau. Bydd pob sesiwn yn cynnwys defnyddio deunydd ac ymagwedd wahanol, o haniaethol i ffigurol a 2D-3D.

e-bostiwch info@elysiumgallery am ragor o wybodaeth