Dosbarthau Bywluniadu Dydd Sadwrn


Event Details


Dosbarthau Bywluniadu Dydd Sadwrn

Dosbarthau bywluniadu a addysgir ar Ddydd Sadwrn olaf pob mis, 1-3yp.

£6 i’w dalu ar y diwrnod.

Mae’r sesiwn wedi’i hanelu at ddechreuwyr neu artistiaid sydd eisiau gwella eu techneg.

Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar wahanol agweddau o’r corff dynol a fydd yn llywio ystumiau’r model yn y sesiwn. Gall cyfranogwyr ddefnyddio pa bynnag ddeunyddiau y maent eu heisiau neu roi cynnig ar dechneg a ddangosir yn y cyflwyniad.

Bydd y sesiynau cyntaf yn cyflwyno gwahanol ffyrdd o ddefnyddio siarcol a bydd y model yn cael ei osod i ddangos strwythur mewnol y corff, y sgerbwd, cyfrannau’r corff a rhagfyrhau.

Cynhelir dosbarthiadau yng ngofod dysgu Oriel 3 elysium

ORIEL ELYSIUM | 210 STRYD FAWR | ABERTAWE | SA1 1PE