Dynevor-Never-Land


Event Details

  • Date:
  • Categories:

Jason + Becky | Philip Cheater | Mandy Lane | Abby Poulson | Tomos Sparnon | Daniel Trivedy

Rhagolwg: Dydd Sadwrn Medi 24ain, 7yh

Arddangosfa’n parhau tan Tachwedd 5ed

Oriel ar agor Dydd Mercher – Sad 11yb – 9yh

Mae Dynevor-Never-Land yn dod â chyn-fyfyrwyr PCYDDS ynghyd, pob un wedi cychwyn ar eu hanturiaethau eu hunain ers graddio, wedi’u cyflwyno yma gyda’u gilydd i’w harchwilio a’u dehongli trwy eich dychymyg eich hunain, yn eich ffordd eich hunain.

Mae’r arddangosfa hon yn rhan o ddathliadau 200 mlynedd Coleg Celf Abertawe.

Jason&Becky
Artistiaid cydweithredol yw Jason & Becky sydd wedi’u lleoli yn Abertawe, De Cymru. Mae eu hymarfer yn ymateb i amodau cymdeithasol-wleidyddol cyfredol gan ddefnyddio ystod o gyfryngau a fformatau arbrofol i drochi cyfranogwyr mewn gofodau amwys, y gellir eu dehongli’n unigol.
www.jasonandbecky.co.uk

Philip Cheater
Mae gwaith Philip yn archwilio semioteg bywyd bob dydd a sut y gellir eu newid i sgiwio ein canfyddiad o’r byd rydym yn byw ynddo.

Mae ei gyfres newydd o waith yn edrych ymhellach i fyd pensaernïaeth, a diwydiant. Yn datblygu syniadau am strwythurau pŵer a systemau rheoli – pŵer yn cael ei gymryd i ffwrdd a strwythurau sy’n ymddangos yn annistrywiol yn chwalu.

Mae’r darluniau a’r gosodiadau y mae Philip yn dal i’w datblygu yn archwilio gwrthrychau a geir mewn digwyddiadau bob dydd, weithiau mewn lleoliadau cyffredin, yna’n ailintegreiddio’r pwnc i dirwedd anghyfarwydd, gan ddatblygu gosodiadau ymdrochol a gwrthrychau sy’n ymddangos fel pe baent yn dal swyddogaeth trwy ddefnyddio deunyddiau a phrosesau diwydiannol.

Astudiodd Philip gyfathrebu gweledol a dylunio graffeg ym Mhrifysgol Bournemouth cyn symud i Abertawe i astudio Celfyddyd Gain yn 2008. Ers graddio yn 2011 mae ganddo stiwdio gydag Oriel Elysium. Dyfarnwyd gwobr Goffa Brian Ross iddo yn 2011, ac yn fwyaf diweddar fe’i comisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru i wneud gwaith newydd fel rhan o’u rhaglen Celf ar y Cyd.
https://www.philipcheater.com/

Mandy Lane

Mae ymarfer artistig Mandy Lane wedi’i wreiddio yn ei hunaniaeth a’i hanes personol fel menyw sy’n byw ac yn gweithio yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Llanelli.

“Mae’n ymarfer sydd wedi gorfod cael ei wau i mewn i fy ngoroesiad fel mam sengl gyda phedwar o blant. Rwy’n gyfranogwr ac i raddau yn ymgyrchydd yn y gymuned honno. Mae fy ngwaith wedi caniatáu i mi gael mynediad i a chyfathrebu ag ystod o grwpiau cymdeithasol trwy brosiectau sy’n denu artistiaid fel cyfranogwyr gweithgar. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn lleisiau hanesyddol a chyfoes mamau a phlant dosbarth gweithiol yng Nghymru. Rwyf wedi meddwl yn fanwl am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn fenyw mewn tlodi. Mae’r ddiddordeb yma’n ganlyniad o fy mhrofiadau problematig fel plentyn. Mae fy ngwaith yn cael ei yrru gan fy mhrofiad efo’r byd. Cymhlethdodau’r domestig a’r dadleoledig. Mae fy ymarfer yn tynnu o fy nealltwriaeth o’r teulu, defodau teuluol a pherthnasoedd o fewn yr uned teuluol unigol, y fam, mam, mammy a phlentyn. Gellid ystyried fy ngwaith fel casgliad o straeon a gyhoeddwyd mewn amrywiaeth o ffurfiau: cerfluniau, darluniau, testun ac ymyriadau. Er bod llawer o dystiolaeth bod pethau yn newid a bod rhywedd yn dod yn fwy symudol a chydraddoldeb yn amlwg, mae llawer o ragfarnau sefydliadol a rhwystrau i gydraddoldeb hefyd yn parhau mor gryf ag erioed.”

Mae gwaith Mandy yn ceisio herio hyn.

 

Abby Poulson

Mae fy ymarfer yn ymchwilio i’r tiroedd o’m cwmpas. Rwy’n defnyddio ffotograffiaeth mewn ystyr amlddisgyblaethol i archwilio ein perthynas â’r tir, yr amgylchedd, hunaniaeth a’r cof. Mae’r gweithiau hyn yn ymatebion safle-ymatebol newydd i’r lleoedd y cefais fy hun yn eu harchwilio’n rheolaidd yn ystod y chwe mis diwethaf o fyw yng Nghorris, cyn gymuned lofaol lechi ychydig islaw mynydd Cader Idris – un o’r pyrth i Ogledd Cymru o’r De.

Astudiodd Abby Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau yng Ngholeg Celf Abertawe, ers graddio yn 2020 mae wedi parhau i dyfu ei hymarfer fel artist, ffotograffydd a churadur yng Nghymru. Mae ei phrosiectau diweddar yn cynnwys The Gathering Ground, dogfen ffotograffig sy’n archwilio perthynas hanesyddol a chyfoes Cymru â dŵr, a Where’s my Space? prosiect digidol cydweithredol a gynhyrchwyd gan PAWA254 a Ffotogallery Cymru, i greu man ymgynnull rhithwir ar gyfer pobl ifanc greadigol.

Gwefan: www.abbypoulson.co.uk

Instagram: @ abpoulson

Tomos Sparnon

Mae ymarfer Tomos yn archwiliad o beth yw bod yn ddynol. Trwy wahanol gyfryngau gan gynnwys peintio, darlunio a cherflunio, mae’n archwilio perthynas dyn â’i gyd-ddyn, â’r byd, â gwrthrychau, ag ef ei hun ac â Duw. Ei nod yw dal y gwrthdaro rhwng y gweladwy a’r anweledig, rhwng realiti a’r hyn nad yw’n real.

Ar gyfer yr arddangosfa hon, bydd Tomos yn arddangos gwaith cerfluniol newydd a wnaed mewn ymateb i densiynau a gwrthdaro gwleidyddol, daearyddol a bob dydd diweddar. Yn y cerflun, mae Tomos wedi defnyddio darn o’r Beibl fel cyfeiriad i gwestiynu syniadau am gynnydd, awdurdod a chymhelliad.

Mae Tomos Sparnon yn 25 oed ac fe’i ganed yng Nghastell-nedd, lle mae’n byw ac yn gweithio. Yn 2018, graddiodd Tomos gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Celfyddyd Gain o Goleg Celf Abertawe. Enillodd Ysgoloriaeth Gelf, Dylunio a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Fflint yn 2017, y wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Celf Agored Y Galeri Caerffili, Caerffili yn 2017, y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerffili yn 2015, ac yn fwyaf diweddar Gwobr Datblygu Jiwbilî Arian gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru yn 2022. Mae ei waith wedi cael ei arddangos ledled Cymru, gan gynnwys yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru; MOMA Machynlleth; Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth; Y Galeri Caerffili, Caerffili; Artistiaid GS, Abertawe; Oriel Mission, Abertawe a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd. Yn 2020, enillodd Tomos y gystadleuaeth i greu cerflun ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru fel rhan o raglen deledu S4C ‘Y Stiwdio Grefftau’. Cafodd y cerflun ei arddangos ar safle Eisteddfod Genedlaethol Tregaron ym mis Awst 2022. Yn dilyn arddangos ym MOMA Machynlleth yn 2021, prynwyd un o luniau Tomos gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer ei chasgliadau.

www.tomossparnon.com
@Celf_Tomos_Art

Daniel Trivedy

Mae Daniel yn defnyddio celf fel dull o ymholi ac ymchwilio. Mae ei ddull gweithio yn cynnwys proses o ymchwilio, myfyrio a chwarae materol sydd yn anaml yn cynhyrchu diwedd neu ganlyniad pendant. Yn hytrach mae’n hoffi meddwl am ei waith fel mân amlygiadau; rhywbeth tebyg i seibiant ar daith hir.

Mae ei ddylanwadau yn amrywiol, ac ar hyn o bryd mae’n archwilio’r berthynas rhwng ei hunaniaeth bersonol a chymynroddion gwladychiaeth. Dros amser, mae nifer o edeifion sgwrsio cydgyfeiriol wedi amlygu eu hunain yn ei waith sy’n dilyn themâu cysylltiad, perthyn a chosmopolitaniaeth.

Mae ganddo ddiddordeb yn ein perthynas seicolegol â’n gilydd, a’r tensiwn a grëir gan safbwyntiau polareiddio a barheir gan y cyfryngau. Mae’n gobeithio y gall dealltwriaeth ehangach o’n hanes cyfunol ddod â ni’n agosach at ein gilydd – er bod hynny’n aml yn cael ei herio. Yn y bôn, mae ganddo ddiddordeb yn y glud sy’n ein dal ni gyda’n gilydd ond hefyd yr hyn sy’n ein cadw ni ar wahân.

Mae iaith deunyddiau, a’r gallu iddynt symud a newid, naill ai dros amser neu o fewn lleoliad newydd, o ddiddordeb cynyddol. Mae bob amser yn ceisio dod o hyd i gydbwysedd rhwng deunyddiau, syniadau a phrosesau.

Mae Daniel Trivedy yn artist amlddisgyblaethol o darddiad Indiaidd ac Indo Guyanese. Astudiodd Gelfyddyd Gain yng Ngholeg Celf Abertawe ac mae’n parhau i weithio yn Ne Cymru.
I gefnogi ei ymarfer, mae Daniel yn gweithio fel darlithydd astudiaethau cyd-destunol ar y cwrs Sylfaen Celf a Dylunio yng Ngholeg Sir Gâr. Mae hefyd yn rhan o dîm Dysgu Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae Daniel wedi arddangos fel unigolyn ac fel rhan o sioeau grwp yn y DU, Tsieina, Ffrainc a’r Unol Daleithiau.

Yn 2019, enillodd Daniel y fedal aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Cedwir ei waith mewn casgliadau preifat a chan Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Gwefan: www.danieltrivedy.com
Insta: dtrivedy