Materion Materol: Sgwrs a Thaith Curadur


Event Details


Materion Materol: Sgwrs a Thaith Curadur

Dyddiad: Dydd Sadwrn 27 Ebrill 2yp

Lleoliad: Oriel Elysium, Stryd Fawr, Abertawe, SA1 1PE

Bydd arddangosiadau byw o brosesau gweithio.

Mae Materion Materol yn archwilio’r berthynas rhwng proses a pherthnasedd, sut mae’r cerflunydd, trwy arbrofi a thrin, yn gallu cynhyrchu gwrthrychau cerfluniol y mae eu cynnwys a’u cymhellion yn hygyrch i gynulleidfa.

Mae Sarah Tombs yn gerflunydd sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru a Llundain.

Ar ôl graddio o’r Coleg Celf Brenhinol ym 1987 sefydlodd Sarah ei ymarfer cerfluniol yn Llundain yn cynhyrchu cerfluniau cyhoeddus. Ochr yn ochr â’i cherflunio cyhoeddus a gomisiynwyd, mae hi wedi cymryd rhan mewn arddangosfeydd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Cedwir ei gwaith mewn llawer o gasgliadau preifat, corfforaethol a chyhoeddus gan gynnwys Casgliad Celf y Llywodraeth, Ysbyty Hammersmith, Ymddiriedolaeth Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Christies UK, a Linklaters UK.

Rhwng 2011 a 2015 Sarah oedd cadeirydd Sculpture Cymru gan arwain a chymryd rhan mewn prosiectau fel Castell: Cerflunwaith yng Nghastell Cydweli. Yn 2015 bu’n arwain y Prosiect Sculpture Cymru Barcode yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (GFGC), gan weithio gyda’u tîm gwyddoniaeth i guradu llwybr cerflunwaith yn yr Ardd. Yn 2016-2017 roedd Sarah yn brif artist mewn prosiect celf/gwyddoniaeth Croesbeillio: Ailbrisio Peillwyr trwy Gelf a Gwyddoniaeth a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a ddaeth ag artistiaid a gwyddonwyr at ei gilydd i ddod o hyd i ffyrdd creadigol o ddylanwadu ar benderfyniadau llunio polisi ar gyfer cadwraeth peillwyr. Cynhaliwyd cynhadledd ryngwladol ac arddangosfeydd yn GFGC, y Bug Farm ac SCA. Fel estyniad o’r prosiect hwn roedd Sarah yn artist preswyl gwadd ym Mhrifysgol Cornell a threfnodd a chyd-guradu arddangosfa a gynhaliwyd yn Oriel Mann, Prifysgol Cornell, NY yn 2019.

Ers 1993 cyfunodd Sarah ei hymarfer cerflunio ag addysgu mewn AU, gan gynnwys prifysgol Keele, Coleg Stafford, Coleg Celf Abertawe a Choleg Sir Gâr. Mae hi’n artist oriel llawrydd ac yn ddarlithydd yn yr Oriel Genedlaethol a Chasgliad Wallace, Llundain.

Daliodd Sarah swydd uwch ddarlithydd mewn Celfyddyd Gain ac Astudiaethau Cyd-destunol yng Ngholeg Celf Abertawe tan 2019 ac ar hyn o bryd mae’n Gymrawd Ymchwil anrhydeddus yno.

Delwedd: Andrew Sabin