Galw am Wirfoddolwyr

Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig i ymuno â’n tîm yn oriel elysium.

Mae ein rhaglen wirfoddoli yn cynnig cyfle i weithio gyda ni i gyflwyno ein rhaglen o arddangosfeydd, prosiectau a digwyddiadau. Bydd yn eich galluogi i gael cipolwg unigryw ar sut mae sefydliadau wedi’u harwain gan artistiaid yn gweithio ac yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder mewn tîm cefnogol.

Bydd rolau yn cynnwys goruchwylwyr oriel, gosod arddangosfeydd, cefnogi digwyddiadau a marchnata.

Mae oriel elysium yn sefydliad di-elw, dan arweiniad artistiaid ac ers ei ddechrau yn 2007 mae wedi dod yn rhan annatod o gymuned gelfyddydau Abertawe a Chymru. Mae ei lwyddiannau wedi eu hadeiladu ar y gwaith caled o bobl yn rhoi eu hamser a’u doniau i wneud i bethau ddigwydd.

Rydym wir yn gwerthfawrogi ein gwirfoddolwyr ac yn gobeithio y bydd eich amser gyda ni yn eich helpu i ddatblygu sgiliau a phrofiad newydd a gwella cyflogadwyedd yn y dyfodol. Hefyd, mae’n ffordd wych o gwrdd â phobl newydd. Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch e-bost at Jonathan, jonathan@elysiumgallery.com yn amlinellu’n fyr:

* Pam yr hoffech chi wirfoddoli gyda ni yn oriel elysium

* Beth hoffech chi gael allan o weithio gydag oriel elysium

* Unrhyw sgiliau neu brofiad sydd efallai yn berthnasol.

* Eich argaeledd

Peidiwch ag oedi i ofyn os oes gennych unrhyw gwestiynau, rydym yn ceisio ateb pob ymgeisydd o fewn pythefnos.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.