GOFODCHI fydd ‘oriel’ ar gyfer dangos gwaith, dysgu sgiliau newydd a datblygiad cymdeithasol. Gyda chefnogaeth oriel elysium, bydd y lle hwn yn cael ei arwain yn gyfan gwbl gan gymuned Abertawe. Wedi’i anelu at grwpiau cymunedol sy’n creu gwaith celf fel adnodd datblygiadol, bydd y gofod yn allfa i artistiaid a grwpiau ar y cyrion ac yn hyrwyddo sectorau creadigol ac annibynnol Abertawe. Bydd y gofod yn dod yn ganolbwynt ar gyfer twf creadigol cymunedol a lle sy’n annog ac yn dathlu cyflawniad artistig a sgiliau.
Bydd digwyddiadau GOFODCHI yn cael eu cynnal yn Oriel Dau ac rydym yn croesawu cynigion a thrafodaethau gan grwpiau cymunedol ac arweinwyr ar sut y gallwn wneud i’r gofod weithio i chi.
E-bostiwch ni: info@elysiumgallery.com