Blwyddyn Newydd Dda hwyr i bawb! Mae wedi bod yn flwyddyn anodd arall ac rwy’n siŵr y bydd 2022 yn dod â mwy o rwystrau a phwysau yn ei sgil. Ond er gwaethaf hyn oll, roedd pethau positif i’w tynnu o’r llynedd a llawer i edrych ymlaen ati dros y 12 mis nesaf.
2021
Treulion ni’r rhan fwyaf o hanner cyntaf 2021 dan glo, gan ganslo ein holl ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw, comedi a pherfformio a symud gweithgareddau oriel ar-lein. Cawsom ystod wych o sgyrsiau artist o fis Ionawr i fis Gorffennaf gyda Jason & Becky, Julian Rowe, Geraint Evans, Lauren Heckler, Eduard Korniyenko, Zoe Gingell, Cherry Pickles a Laura Ford. Mae’r rhain i gyd a llawer mwy o sgyrsiau a ffilmiau i’w gweld ar ein sianel deledu oriel elysium ar YouTube.
Ym mis Ebrill fe lansiwyd ein harddangosfa rithiol ar-lein yn unig gyntaf erioed ‘Red Heat & Walls of Putin’ (Gwres Coch a Waliau Putin) gyda ffotograffwyr o Rwsia Ivor Tereshkov ac Eduard Korniyenko.
Dilynwyd hyn gan ein hail Ŵyl Ffilm Ryngwladol (IFF) ar-lein flynyddol yn cynnwys Alexis Zelda Stevens, Teifi Rowley, Marega Palser a Steven George Jones, Ryan Heath, Jayne Wilson, a Simon Nunn.
O’r diwedd ym mis Mai, fe ailagorodd yr oriel yn llawn unwaith eto gyda phedwar arddangosfa. Yn Oriel Un, bu Household Name (Enw Cyfarwydd) gyda Laura Ford, Cherry Pickles, Zoe Gingell, Zena Blackwell, Adele Vye, Fern Thomas a Raji Salan. Yn Oriel Dau roedd Birdhouse (Tŷ Adar) gyda Lucy Anna Howson, Abby Poulson, Dili Pitt, Katie Trick a Lily Ella Westacott. Yn Oriel Tri cawsom Around the House (O Gwmpas y Tŷ) gan Heather Parnell. Ein artist Celf yn y Bar oedd Dylan Williams.
Daeth dros 300 o artistiaid at ei gilydd ym mis Gorffennaf o’n prosiect cyfnod cloi Without Borders (Heb Ffiniau) lle cafodd yr holl dudalennau eu harddangos yn elysium cyn cael eu rhoi at ei gilydd mewn llyfr enfawr a’u hanfon ar ei daith i wahanol leoliadau ledled y byd lle mae’n cael ei arddangos yn Siapan ar hyn o bryd cyn mynd i Fenis yn ddiweddarach eleni. Yn Oriel Dau roedd MEWNrhwng gyda Najia Bagi, Jenny Cashmore, Rebecca F Hardy a Gemma Lowe. Ein artist Celf yn y Bar oedd Tim Kelly.
Ym mis Medi lansiwyd ein harddangosfa tecstilau cyfoes fawr Thread (Edau) a guradwyd gan Angela Maddock, Ann Jordan a Lorna Hamilton Smith. Roedd Edau yn cynnwys gwaith Shelly Goldsmith, Raisa Kabir, Shona Robin MacPherson, Imogen Mills, Lasmin Salmon a Siwan Thomas, ac roedd symposiwm rhyngwladol ar-lein arbennig dan arweiniad y curaduron yn cyd-fynd ag ef.
Ym mis Hydref a Thachwedd roedd yn bleser gennym groesawu’r ffotograffydd adnabyddus Richard Ansett a diweddglo ei gyfnod preswyl yn Abertawe o’r enw No Place like Home (Unman yn Debyg i Adre). I gyd-fynd â hyn, ein artist ni o elysium, Daniel Staveley, oedd artist Celf yn y Bar.
Gorffennodd y flwyddyn, yn addas, gydag Another Year, Another (Blwyddyn Arall, Eto) yn cynnwys Laura Dunlop, Abigail Fraser, Belinda Golding, Elisha Hughes, Christina Logan, Jess Parry a Connor Tudor. Saith o raddedigion Coleg Celf Abertawe a fethodd ar eu sioeau gradd oherwydd y pandemig COVID-19. Ein artist celf yn y bar oedd Alfie Scheinman.
Croeso i 2022!
Felly fel y daeth y llynedd i ben a’r blwyddyn hon wedi cychwyn, rydym mewn sefyllfa debyg i flwyddyn yn ôl. Roedd cyfyngiadau’r llywodraeth wedi ein gorfodi i ganslo holl ddigwyddiadau mis Ionawr a chau eto, ond gyda gobaith y bydd mis Chwefror yn ein gweld yn dod yn ôl i normal.
Mae gennym flwyddyn gyffrous iawn ar y gorwel, yn enwedig dychweliad Beep, y Biennial Paentio sy’n dathlu ei 10fed flwyddyn yr haf hwn, rhaglen gyffrous o weithgareddau a digwyddiadau oriel ac oddi ar y safle, a dathliad ein penblwydd yn 15 oed! Bydd mwy yn cael ei ddatgelu yn fuan.
Rydym yn ailagor ar Ddydd Gwener 4ydd o Chwefror gyda’n harddangosfa enillwyr gwobr Peintio Rhyngwladol Eilflwydd Beep 2020, yn arddangos prif enillydd Gwobr Beep Rosalind Faram, enillydd Gwobr Oriel Deg/ Andre Stitt Graham Jones, enillydd Gwobr Cyfeillion y Glynn Vivian Arron Kuiper a dewis Gwobr y Bobl Tess Gray.
Gobeithiwn ailddechrau ein digwyddiadau cerddoriaeth fyw a pherfformio wythnosol cyn gynted â phosibl a phan fydd diogelwch yn caniatáu.
Rydym yn diolch i chi am eich holl gefnogaeth a methu aros i weld eich holl wynebau yn fuan iawn.
Llawer o gariad!
Tîm oriel elysium