Lauren Heckler – We must be still and still moving (Rhaid inni fod yn llonydd a dal i symud)
Rhagolwg: Dydd Gwener Medi 15fed, 7yh
Arddangosfa yn parhau tan Ddydd Sadwrn Hydref 14eg
Ar agor: Dydd Mercher – Sadwrn 12-5yp
Sgwrs artist: Dydd Sadwrn 30ain Medi 10.30yb
Mae We must be still and still moving yn dwyn ynghyd ymholiadau amrywiol y mae Lauren wedi bod yn archwilio trwy gydol ei cyfnod preswyl yn stiwdios Elysium.
Yn gweithredy bron fel tirfesurwr yn y dref, mae Lauren wedi bod yn ymchwilio natur gylchol yr awydd am ddatblygiad ynghyd a’r ffrithiant rhwng adnewyddu a’r cydnabyddiant neu ddathliad o’r gorffennol. Beth yw goblygiadau o dynnu i lawr adeilad hirsefydlog neu tirnod arwyddocaol yn cael ei orchuddio, ei symud neu ei adael? Mae’r sioe hon yn cyflwyno casgliad o waith newydd a gwrthrychau a ganfuwyd â gysylltiad fras, gan gynnwys dwylo Cloc Blodau Abertawe a digomisiynwyd, sy’n ffocysu ar y syniadau hyn.
Nid yw’r sioe yn cynnig unrhyw atebion, ond mae’n gweithredu fel sbardun i gael sgwrs.
Mae Lauren yn artist yn Ne Cymru. Graddiodd o Brifysgol Brighton yn 2014, lle bu’n astudio Celfyddyd Gain: Ymarfer Critigol. Ers hynny mae wedi ymgymryd â phreswylfeydd yn lleol yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae Lauren hefyd yn cydweithio gyda’r artist Sophie Lindsey, fel ‘Site Sit’, maen nhw’n creu gwaith ymatebol ar y safle a threfnu cyfleoedd i artistiaid ymgysylltu â’u lle.
Mae cyflwyniadau diweddar o waith Lauren yn cynnwys, Ymyrraeth y Wladfa Newydd 4 yn MOMA Machynlleth (2017), Rhôd yn y Rhath (Made in Roath 2016) a Stiwdio Agored Cysylltiadau (Preswylfa Artist Kultivera yn Tranås, Sweden 2016)
Bydd yr artist yn siarad am ei gwaith ymysg artistiaid dethol eraill ar gyfer symposiwm brecwast fel rhan o Ŵyl Ymylol Abertawe eleni. Croeso i bawb.